Pennaeth Newydd ar yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Dr Jamie Medhurst.

Dr Jamie Medhurst.

11 Ionawr 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Dr Jamie Medhurst yn Bennaeth ar yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae Dr Medhurst yn raddedig o’r Brifysgol ac y mae’n arbenigwr ar hanes darlledu gyda diddordeb penodol mewn teledu cynnar a’r BBC (1923-39), ITV yn yr 1950au a’r 1960au, a hanes a hanesyddiaeth y cyfryngau. Ymunodd Dr Medhurst â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 1996 fel darlithydd mewn Ffilm ac Astudiaethau Teledu. Ers ymuno â’r Adran y mae wedi cyflawni sawl swyddogaeth o’i mewn, ac fe’i dyrchafwyd yn Uwch Ddarlithydd yn 2010.

Y mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol ac o’r Academi Addysg Uwch, yn aelod o Fwrdd Golygyddol Media History ac o Goleg Adolygiad Cymheiriaid yr AHRC.

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Dr Medhurst: “Yr wyf yn hapus tu hwnt fy mod wedi cael fy mhenodi i’r swydd gyffrous hon ac edrychaf ymlaen at arwain yr Adran yn y dyfodol. Mae’r cyrsiau a gynigir gan yr Adran yn rhai cyson boblogaidd ymysg y myfyrwyr ac yr wyf yn hyderus y medrwn barhau i gyfrannu tuag at y profiad myfyriwr arbennig hwnnw, ynghyd â’r proffil ymchwil rhyngwladol da, sy’n nodweddu Prifysgol Aberystwyth.”

Nododd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Carwn longyfarch Dr Medhurst ar ei benodiad a dymunaf yn dda iddo ef ac i’r Adran ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn un o’r rhai mwyaf o’i math ym Mhrydain o ran niferoedd staff a niferoedd myfyrwyr. Gydag adnoddau o safon uchel, mae’r Adran yn cynnig rhai o’r cyrsiau addysg uwch mwyaf cyffrous a phoblogaidd a geir heddiw, ac edrychaf ymlaen at gael gweld yr Adran yn ffynnu o dan arweiniad Dr Medhurst.”

AU30911