Technocamps

Dr Fred Labrosse o’r Adran Gyfrifiadureg yw Cyfarwyddwr Rhanbarthol Technocamps Aberystwyth. Bydd yn trafod llywio robotiaid.

Dr Fred Labrosse o’r Adran Gyfrifiadureg yw Cyfarwyddwr Rhanbarthol Technocamps Aberystwyth. Bydd yn trafod llywio robotiaid.

20 Ionawr 2012

Mae Technocamps Aberystwyth a BCS, Y Sefydliad Technoleg Gwybodaeth Siartredig, yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth 24 Ionawr (5-9 yr hwyr) i bawb sydd â diddordeb mewn llythrennedd digidol ac addysg gyfrifiadurol.

Cynehlir y digwyddiad ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gampws Penglais.

Bydd y sesiwn gyntaf, sydd wedi’i hanelu at athrawon ac addysgwyr sy’n gweithio mewn pynciau sy’n gysylltiedig â STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn cyflwyno Canolfan Technocamps Aberystwyth a’i gweithdai sydd wedi’u cynllunio i danio brwdfrydedd pobl ifanc ynghylch cyfrifiaduro. Bydd y sesiwn yn cynnwys trosolwg o’r prosiect, sesiynau ymarferol yn ogystal â chipolwg o fyd anhygoel roboteg.

Yn dilyn hyn, bydd BCS Canolbarth Cymru yn cadeirio sesiwn gyffredinol i ystyried cwestiwn ehangach addysg gyfrifiadurol yn y Deyrnas Unedig. Bydd panel o arbenigwyr a phartïon â diddordeb yn arwain y drafodaeth, gan ystyried y broblem o gyfrifiaduro mewn ysgolion o safbwyntiau amrywiol.

Dyweddodd Dr Emma Posey o Technocamps Aberystwyth: “Rydym yn awyddus i weld pobl ifanc yn creu yn ogystal â phrynu technoleg. Yn Technocamps rydym yn eu cyflwyno i fyd rhaglennu ac electroneg i alluogi pobl ifanc o Gymru i arwain y ffordd yn yr economi ddigidol yn y dyfodol. Mae angen sefydlu Rhaglennu yn y cwricwlwm ysgolion yn yr un modd â TGCh.”

Mae’r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. I gofrestru, ewch i www.technocamps.com/events. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Lisa Fisher, Swyddog Cydlynu Ysgolion, Technocamps Aberystwyth ar 01970 622454 neu e-bost lisa.fisher@technocamps.com.

Mae Technocamps yn brosiect £6 miliwn a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bangor, Aberystwyth, a Morgannwg. Mae’r prosiect yn darparu sesiynau dyddiol ac wythnosol i bobl ifanc rhwng 11-19 oed ar amrywiaeth o bynciau cyfrifiadurol cyffrous fel rhaglennu, roboteg, cryptograffeg, animeiddio a llawer mwy. Mae gan Technocamps nod tymor hir o annog pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn maes a fydd yn gyrru twf economaidd yng Nghymru .

Sefydlwyd Cangen BCS Canolbarth Cymru ym Mawrth 2010, ac mae’n gweithio yng nghanolbarth Cymru i hyrwyddo amcanion y BCS. Cenhadaeth y BCS, sef Sefydliad Siartredig TG, yw galluogi’r gymdeithas wybodaeth. Rydym yn hyrwyddo cynnydd cymdeithasol ac economaidd ehangach trwy ddatblygu gwyddor ac ymarfer technoleg gwybodaeth. Mae BCS yn dod â diwydiant, academyddion, ymarferwyr, a’r llywodraeth at ei gilydd i rannu gwybodaeth, hyrwyddo ffyrdd newydd o feddwl, dylanwadu ar ddatblygiad addysg gyfrifiadurol, llunio polisi cyhoeddus a hysbysu’r cyhoedd  - www.bcs.org/midwales.

AU0212