Galw mawr

24 Ionawr 2012

Yn sgil galw mawr am lefydd gan fyfyrwyr â chymwysterau da iawn, ni fydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw geisiadau newydd gan ddarpar fyfyrwyr o’r Deyrnas Gyfunol / Undeb Ewropeaidd ar gyfer mynediad i gyrsiau israddedig ym mis Medi 2012, sydd wedi eu cyflwyno ar ôl dyddiad cau UCAS, y 15fed o Ionawr.

Dywedodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Dyma’r flwyddyn ddiweddaraf mewn cyfres arbennig o ran nifer ceisiadau i Aberystwyth. Mae’r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ceisiadau o'i gymharu â 2010 i astudio pynciau sydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru - Mathemateg, Ffiseg ac Ieithoedd Ewropeaidd - yn destun llawenydd arbennig.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein hymgeiswyr llwyddiannus i un o’r nifer o Ddiwrnodau Ymweld sydd wedi eu trefnu ar gyfer 2012, fel y gallant weld yr adnoddau gwych sydd ar gael ar eu cyfer yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Oherwydd trefniadau cyllido gwahanol mae'r Brifysgol yn fodlon parhau i ystyried ceisiadau o wledydd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd.

Am wybodaeth am y diwrnodau ymweld ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/visiting-days/

AU0912