Swyddi academaidd newydd

07 Chwefror 2012

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth heddiw, dydd Mawrth 7 Chwefror 2012, ei bod yn creu 27 o swyddi academaidd newydd ar lefel Darlithydd, Uwch Ddarlithydd, Darllennydd ac Athro.

Mae’r cyhoeddiad yn cynrychiolu buddsoddiad sylweddol ac ymrwymiad cadarn i ddatblygiad pellach o adrannau academaidd a phrofiad myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
 
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Dyma un o’r ymgyrchoedd recriwtio staff newydd mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth erioed.”

“Mae’r Brifysgol, sydd yn dathlu ei phenblwydd yn 140 oed eleni, yn ymhyfrydu yn ei hanes, ond yn edrych yn gadarn tuag ar y dyfodol, dyfodol yr ydym yn ei lunio ar y cyd gyda’n myfyrwyr a’n staff. Ein blaenoriaethau yw ehangu a hyrwyddo ein henw da rhyngwladol ar sail ymchwil blaengar amlddisgyblaethol mewn ystod eang o feysydd academaidd, ynghyd â darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon byd.”

“Mae cryfdreau’r Brifysgol yn ganlyniad i angerdd ac ymroddiad cymuned eithriadol. Mae’r 27 swydd academiadd yma yn wahoddiad i ymuno â phrifysgol o safon byd sydd mewn amgylched o safon byd, ac ein cynorthwyo ni wrth i ni lunio ein dyfodol,” ychwanegodd.

Mae’r swyddi yn y meysydd academaidd canlynol: Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Gwleidyddiaeth Rhyngwladol; Cyfrifiadureg; Hanes a Hanes Cymru; Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Seicoleg; Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol; Y Gyfraith a Throseddeg.

Bydd manylion am y swyddi yn ymddangos ar y wefan www.aber.ac.uk/hr ar ddydd Iau y 9fed Chwefror.

AU2512