Penodi uwch swyddogion i Gyngor Prifysgol Aberystwyth

Dr Tim Brain (Trysorydd), Dr Glyn Rowlands (Is-Lywydd), Yr Athro April McMahon (Is-Ganghellor), Syr Emyr Jones Parry (Llywydd), Miss Gwerfyl Pierce-Jones (Is-Lywydd), Mrs Elizabeth France (Is-Lywydd).

Dr Tim Brain (Trysorydd), Dr Glyn Rowlands (Is-Lywydd), Yr Athro April McMahon (Is-Ganghellor), Syr Emyr Jones Parry (Llywydd), Miss Gwerfyl Pierce-Jones (Is-Lywydd), Mrs Elizabeth France (Is-Lywydd).

07 Chwefror 2012

Mae Dr Tim Brain wedi ei benodi i’r swydd o Drysorydd tra bod Miss Gwerfyl Pierce Jones a Dr Glyn Rowlands yn cychwyn fel Is-Lywyddion.

Yn croesawu’r aelodau newydd i’w swyddi dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n hynod falch o groesawu Tim, Gwerfyl a Glyn i’r swyddogaethau strategol pwysig ar Gyngor y Brifysgol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cydweithio gyda’r Is-Ganghellor wrth adeiladu ar hanes llwyddiannus a chlodfawr Aberystwyth.  Bydd Aberystwyth yn parhau i arwain y ffordd ar ddysgu ac addysgu o safon byd yn ogystal â chynnig profiad myfyrwyr o’r radd flaenaf.”

Bu Dr Timothy Brain OBE QPM BA PhD FRSA CCMI yn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw o 2001 hyd Ionawr 2010, gan ymddeol fel y prif gwnstabl hiraf ei wasanaeth yn y wlad. Cyn ymuno â’r Heddlu bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1972 a 1978, lle astudiodd hanes gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1975 a’i PhD yn 1983. Fe’i hurddwyd yn Gymrawd i Brifysgol Aberystwyth yn 2007.

Mae Dr Glyn Rowlands yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chanddo radd BSC a PhD mewn Cemeg.  Yn dilyn gyrfa hynod lwyddiannus mewn gwyddoniaeth a rheolaeth fe ddaeth yn ymgynghorydd busnes i gwmnïau mawrion.  Fe urddwyd Dr Rowlands yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2000.

Mae Miss Gwerfyl Pierce Jones, yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor a gychwynnodd ei gyrfa fel darlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.  Cydnabuwyd ei chyfraniad i Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan yn 2008 pan yr urddwyd hi yn Gymrawd.  Yn dilyn ei chyfnod ym Mhrifysgol Llanbedr-Pont-Steffan bu’n gweithio mewn swyddi gweinyddiaeth gelfyddydol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yr Academi a Chyngor Llyfrau Cymru. Bu’n Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru o 1987 tan ei hymddeoliad yn 2009.

Gan ategu sylwadau Syr Emyr Jones Parry, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae llywodraethu effeithiol yn hanfodol i iechyd a datblygiad prifysgol.  Rwy’n falch iawn o weld bod modd i Aberystwyth ddenu unigolion o’r radd flaenaf i fod yn aelodau o’r Cyngor ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â hwy i ddatblygu ein Sefydliad ymhellach er budd ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned leol.”
 
Mae’r penodiadau, a fydd yn para am gyfnod o bum mlynedd wrth i swyddi’r Trysorydd a’r Is-Lywydd ddod yn wag wrth i Richard Morgan a Winston Roddick QC gamu yn ôl wedi iddynt weithio yn y swyddi am ddau dymor.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry: “Hoffwn ddiolch yn fawr i Richard a Winston am eu cefnogaeth i’r Cyngor ac i Brifysgol Aberystwyth; gwerthfawrogir eu cyfraniad sylweddol yn fawr.”

Mae’r Is-Lywyddion yn ymuno â Mrs Elizabeth France a benodwyd i’r swydd yn 2007.

AU2712