Noson yng nghwmni’r Arglwydd Elystan Morgan

Yr Arglwydd Elystan Morgan.

Yr Arglwydd Elystan Morgan.

09 Chwefror 2012

Nos Wener 10 Chwefror 2012, bydd yr Arglwydd Elystan Morgan yn rhannu ei brofiadau yn y Senedd yn San Steffan ac yn trafod y cwestiynau mawr sydd yn herio gwleidyddion ar lefel Brydeinig a Chymreig heddiw.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 5.30yh, gyda derbyniad gwin yng nghyntedd yr adeilad o 5.00 o’r gloch ymlaen.

Bu'r Arglwydd Elystan Morgan yn Aelod Seneddol dros Sir Aberteifi rhwng 1966-74, yn Weinidog yn y Swyddfa Gartref, ac yn Llywydd Prifysgol Cymru,  Aberystwyth, rhwng 1997-2007.

Cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg ac fe ddarperir offer cyfieithu. Trefnir y cyfarfod hwn gan Gymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth (CWGA), ac mae croeso i bawb.

Am fanylion pellach cysylltwch ag Einion Dafydd (eed09@aber.ac.uk)

AU2412