Gwobr Wy-ch i Brifysgol Aberystwyth

Tony Burgess, perchennog Wyau Birchgrove gyda Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaeth Croeso, Prifysgol Aberystwyth.

Tony Burgess, perchennog Wyau Birchgrove gyda Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaeth Croeso, Prifysgol Aberystwyth.

16 Chwefror 2012

Rhoddir Gwobr Wyau Da i arlwywyr sy’n gofalu eu bod yn prynu wyau a chynnyrch wyau gan adar di-gaets.

Meddai Jeremy Mabbutt, Pennaeth y Gwasanaethau Croeso: “Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn dod o hyd i gyflenwyr bwyd lleol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae gennym bolisi prynu bwyd moesol a chynaliadwyedd cynhwysfawr sy’n gosod ystyriaethau amgylcheddol, iechyd a chynaliadwyedd wrth galon pob penderfyniad a wneir wrth brynu.

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill y wobr hon gan ei bod hi’n cydnabod ein hymrwymiad i sicrhau bod ein hwyau yn bodloni anghenion ein cwsmeriaid o ran ansawdd a blas yn ogystal â’n hymrwymiad i sicrhau bod yr wyau a brynir yn cael eu cynhyrchu i safonau lles a chynaliadwyedd uchel.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn prynu tua 96,000 o wyau bob blwyddyn, bob un ohonynt gan gynhyrchydd wyau arobryn a leolir tua 9 milltir o’r Brifysgol, Wyau Birchgrove.

Meddai Tony Burgess, perchennog Wyau Birchgrove: “ Mae holl wyau Birchgrove yn wyau maes ac yn dwyn gwarant cynllun Bwyd Rhyddid yr RSPCA sy’n sicrhau bod y safonau uchaf o ran lles, glendid ac arferion amgylcheddol mewn lle ac yn cael eu monitro. Rydym yn falch iawn fod y Brifysgol wedi ennill y wobr hon gan fod hyn yn dangos ei hymrwymiad i brynu cynnyrch wyau o’r safon uchaf yn ogystal â chefnogaeth i fusnes lleol.”        

Dyma’r wobr ddiweddaraf i Wasanaethau Preswyl a Chroeso Prifysgol Aberystwyth sy’n cynnwys 2008 (Enillydd) Aur Gwir Flas Cymru Cynnyrch Cig – Cig Oen; 2009 (Enillydd) Aur  Gwir Flas Cymru – Gwobr Datblygiad Cynaliadwy; 2009 Gwobr Arian Gwir Flas Cymru – Dosbarth Cig Coch (mân-gynhyrchydd); 2009 Gwobr Arian Gwir Flas Cymru – Dosbarth Menter Prynu’n Lleol; 2010 Rhestr Fer am Gyfraniad Eithriadol at Ddatblygu Cynaliadwy a 2011 Gwobr Arian Gwobrau Dewisiadau Iach Cymru Gyfan. Fe enillodd y Brifysgol hefyd statws Masnach Deg yn 2009.

AU1712