Bardd Cenedlaethol mewn cynhadledd

08 Mawrth 2012

Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn mynychu Cynhadledd Flynyddol yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i Uwchraddedigion a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r 25ain tan y 27ain o Ebrill 2012.

Gillian Clarke, a benodwyd yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2008, ac a dderbyniodd Fedal y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010, fydd un o’r prif siaradwyr yn y gynhadledd ac mi fydd yn ateb cwestiynau ynghylch ei gwaith a’i rôl gyhoeddus.

Mae myfyrwyr TGAU a Safon Uwch ledled Prydain yn astudio ei barddoniaeth a gyfieithwyd i ddeg iaith.

Ei hanerchiad hi fydd un o’r digwyddiadau sy’n rhan o Gynhadledd yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i Uwchraddedigion 2012: "Are We There Yet? Remapping Literary Imagination".

Bydd y prif siaradwyr eraill eleni yn cynnwys awdur Llyfr y Flwyddyn Cymru 2011, Ned Thomas, a phennaeth adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Dr Damian Walford Davies.

Dylai’r sawl sydd am ddod i’r gynhadledd gysylltu ag Ollie Bevington (odb09@aber.ac.uk) neu Ashley Hill (anh11@aber.ac.uk ). Am wybodaeth bellach, ewch at wefan yr adran: www.aber.ac.uk/en/english/.

Gwahoddir crynodebau 200-300 o eiriau ar gyfer papurau 15-20 munud gan ymchwilwyr sy’n dechrau ar eu gyrfa, myfyrwyr uwchraddedig ac israddedigion yn y drydedd flwyddyn sy’n gweithio ym meysydd astudiaethau llenyddol, ysgrifennu creadigol, damcaniaeth lenyddol, a disgyblaethau cysylltiedig. Gall y pynciau gynnwys y rhai a ganlyn, ond ni chewch eich cyfyngu iddynt:

 -Goresgyn ffiniau mewn barddoniaeth a rhyddiaith
-Teithiau llenyddol, ysgrifennu am deithiau
-Profiad y lleiafrif mewn cymdeithas
-Dieithriad a chymathiad
-Pan fo ffurfiau llenyddol yn gwrthdaro
-Diwylliannau a llenydda ar y cyrion

Dyddiad Cau ar gyfer Crynodebau: 23 Mawrth 2012. Ffurflenni cofrestru i’w cyflwyno erbyn 10 Ebrill.

AU4312