Fedrwch chi fod yn ddom-onydd?

09 Mawrth 2012

Un o'r atyniadau sy'n wynebu disgyblion ysgol sy'n mynychu'r Ŵyl Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos nesaf (13-15 Mawrth 2012) fydd prawf 'taith y tail' lle mae'r plant yn paru gwastraff anifeiliaid gyda’i penglogau.

Yn ogystal â chanfod a oes gyda chi'r hyn sydd ei angen i fod yn ddom-onydd, neu sgatolegydd fel ei adnabyddir yn swyddogol, bydd y rhai sy'n mynychu'r ŵyl hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arbrofion byw gyda phys a phlanhigion i brofiadau ymarferol sy’n ymwneud â mwydod ac anifeiliaid gwyllt.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad Roger Morel o’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant, "Bydd gennym gymysgedd go iawn o arddangosfeydd yma yn yr ŵyl a bydd y myfyrwyr rwy'n siŵr yn mwynhau'r profiadau a gynigir a fydd yn amrywio o ddeall sut mae robotiaid a rollercoasters yn gweithio i gymysgu hylifau a gwneud eu sbectol 3D eu hunain.

"Y stondin mwyaf diddorol o bosib fydd y casgliadau carthion lle bydd angen i fyfyrwyr roi penglog yr eliffant, arth neu jiráff gyda'r tail iawn! Gallwn ddysgu llawer iawn am anifail a'u system dreulio o'r hyn maent yn ei fwyta. "

Bydd tua 28 arddangoswyr yn yr ŵyl, sy'n cynnwys adrannau gwyddoniaeth y Brifysgol, Cyngor Sir Ceredigion, Dulas Engineering, Statkraft, y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) a'r Gymdeithas Frenhinol Gemeg.

Mae hwn yn Ŵyl Gwyddoniaeth tri-diwrnod sydd wedi’i drefnu gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o'r Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Genedlaethol 2012. Hwn yw’r dathliad mwyaf o holl bethau gwyddoniaeth a pheirianneg yng Nghymru a’r DU.

Mae mwy na 1000 o ddisgyblion dros 20 o ysgolion yng Ngheredigion, Powys a Gwynedd eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr ŵyl, a gynhelir yn y Gawell Chwaraeon ar Gampws Penglais y Brifysgol.

Mae trefnwyr y digwyddiad hefyd yn estyn gwahoddiad cynnes i aelodau o'r cyhoedd i'r sesiwn Dydd Mercher sydd ar agor tan 6 yr hwyr. Oriau agor ar ddydd Mawrth a dydd Iau yw 9.30yb tan 3yh.

AU6112