Rhith Arsyllfa Dyfi

13 Mawrth 2012

Mae Rhith Arsyllfa Dyfi, a reolir gan Brifysgol Aberystwyth, yn cynnal a noddi ‘Noson ar Ddyfi’ yn Nhabernacl Machynlleth ddydd Iau 29 Mawrth, o 7 tan 10 yr hwyr, i ddathlu afon Dyfi a’i bro.

Bydd y digwyddiad hwn, gydag amrywiaeth o siaradwyr a sesiwn ‘Hawl i Holi’ i ysgogi meddwl a thrafodaeth, yn gyfle perffaith i fwynhau noson gymunedol fywiog.

Yn rhan gyntaf y noson fe roddir  tri chyflwyniad hynod ddiddorol: bydd Jean Napier, ffotograffydd lleol, yn adrodd stori ffotograffig, yn rhannu uchafbwyntiau a chwedlau mytholegol, o darddiad afon Dyfi i’r môr; bydd y Dr Paul Brewer, Prifysgol Aberystwyth, yn siarad am ymddygiad dynamig afon Dyfi; ac fe fydd Mike Bailey, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn rhoi cyflwyniad ar drysorau naturiol Cors Fochno a chorstiroedd Dyfi.

Ar ôl egwyl am ddiodydd a chawiau o Gymru fe fydd sesiwn ‘Hawl i Holi’ fywiog gyda phanel o arbenigwyr o dan gadeiryddiaeth y ffermwr lleol ifainc a seren roc Aeron Pughe.

Dyma aelodau’r panel: yr Athro Mark Macklin (Prifysgol Aberystwyth/Rhith Arsyllfa Dyfi), Shelagh Hourahane (Creu-ad), Mike Bailey (Cyngor Cefn Gwlad Cymru), Jean Napier (ffotograffydd), Allan Wynne Jones (Biosffer Dyfi) a’r Athro Deborah Dixon (Prifysgol Aberystwyth).
Dywedodd Allan Wynne Jones o Bartneriaeth Biosffer Dyfi, a fydd yn cyflwyno’r noson ac yn aelod o banel arbenigwyr y noson: “Dyma gyfle gwych i’r gymuned leol godi eu cwestiynau a chynnig eu hatebion eu hun. Hoffem drafod ystod eang o faterion, o fioamrywiaeth a’n  diwylliant i’r economi leol.”

Dywedodd yr Athro Mark Macklin, Prif Archwilydd Rhith Arsyllfa Dyfi, sy’n cynnal y digwyddiad, “Dyma gyfle prin i wyddonwyr, cynrychiolwyr y gymuned a phobl leol ddod at ei gilydd a mwynhau dadl dda. Rydym yn wirioneddol awyddus i annog y gymuned leol i ddod a mwynhau noson i ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol Dyfi.”

Un o brif amcanion y noswaith yw codi ymwybyddiaeth o Fiosffer Dyfi a’i gysylltiad daearyddol â dalgylch yr afon. Dywedodd y Dr Paul Brewer, geomorffolegydd sy’n rhoi cyflwyniad yn y digwyddiad, “Dydyn ni ddim yn siŵr faint o bobl sy’n sylweddoli eu bod yn byw mewn Biosffer a gydnabyddir gan UNESCO – y cyntaf o’i fath yng Nghymru! Mae ffiniau ardal craidd y Biosffer yn dilyn dalgylch afon Dyfi. Byddem ni wrth ein bodd o gael pobl o bob rhan o’r fro yn dod i fwynhau’r noswaith.”

Ychwanegodd Aeron Pughe, a fydd yn cadeirio’r sesiwn holi ac ateb, “Rwy wir yn edrych ymlaen at gadeirio’r sesiwn – mi ddylai hi fod yn ddadl fywiog. Gobeithio gweld pobl o bob oedran yn dod, yn enwedig y to iau na fyddan nhw wedi dod i’r math hwn o ddigwyddiadau cymunedol o’r blaen, efallai.”

Anogir pawb i gyflwyno cwestiwn i’r panel, naill ai ar-lein yn www.dyfivo.org.uk/submit neu wrth y drws. Gallai syniadau gwmpasu unrhyw fater sy’n berthnasol i orffennol, presennol neu ddyfodol Biosffer Dyfi. Er mai cyfran fechan yn unig o gwestiynau a gyflwynir ar y noson ei hun, fe fydd Rhith Arsyllfa Dyfi yn rhannu’r pryderon a’r pynciau sydd o bwys i’r gymuned â Phartneriaeth Biosffer Dyfi i sicrhau y bydd lleisiau pawb yn cael eu gwyntyllu a’u clywed.

Er bod y noson YN RHAD AC AM DDIM, mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw. I sicrhau’ch tocynnau AM DDIM ewch draw nawr i wefan dyfinight.eventbrite.co.uk neu ffoniwch 01970 628545 i gadw’ch tocynnau. Noson ddwyieithog fydd hon ac fe fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Rhith Arsyllfa Dyfi
Dewiswyd Rhith Arsyllfa Dyfi yn esiampl leol gan y Rhith Arsyllfa Amgylcheddol, a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, ac sydd yn fenter arloesi i Brydain gyfan. Bydd pobl leol, cynghorau, gwyddonwyr a chyrff amgylcheddol ar draws bro Ddyfi yn gallu defnyddio’r arsyllfa i astudio materion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae Rhith Arsyllfa Dyfi yn cael ei rhedeg gan y Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd.

Y Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd
Mae Canolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd, werth £2.7M, yn un o bedair Canolfan Ymchwil ym Mhartneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Mae’r Ganolfan Ymchwil yn dwyn ynghyd gonsortiwm amlddisgyblaethol o academyddion amgylcheddol, sydd ar flaen eu meysydd, o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Canolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd, yr Adran Gyfrifiadureg, a sefydliad newydd sef Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, i gyd ym Mhrifysgol Aberystwyth; yn ogystal â’r Ysgol Gwyddorau Eigion, yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, a’r Ysgol Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd cysylltiadau cryf â Chanolfan Ecoleg a Hydroleg (sydd â’i swyddfeydd ar yr un safle â Phrifysgol Bangor yng Nghanolfan Amgylchedd Cymru).

Nod y Ganolfan yw integreiddio astudiaethau ar afonydd, aberoedd a dyfroedd arfordirol o fewn sustem ymarferol a chyd-gysylltiedig unigol a thrwy hynny sefydlu fframwaith i roi buddiannau sylweddol ar gyfer rheoli, mewn modd cynaliadwy yn y tymor hir, ddŵr, afonydd, glannau a chefnforoedd yng Nghymru a rhyngwladol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mark Macklin – mvm@aber.ac.uk

I ddysgu mwy am Rith Arsyllfa Dyfi, gweler ein gwefan yn www.dyfivo.org.uk

Ynghylch Partneriaeth Biosffer Dyfi
Safleoedd rhagoriaeth yw Cadwrfeydd Biosffer UNESCO a’u nod yw hyrwyddo integreiddio i gydgordio rhwng pobl a natur er mwyn hybu datblygu cynaliadwy.
http://www.unesco.org/mab/doc/faq/brs.pdf 

Cydnabyddir Biosffer Dyfi yn rhyngwladol am ei fywyd gwyllt, ei dreftadaeth a’i ddiwylliant eithriadol, yn ogystal ag ymdrechion ei gymunedau i ddangos posibiliadau byd mwy cynaliadwy. Dyma’r unig fiosffer yng Nghymru, sy’n cwmpasu Aberystwyth a dalgylchoedd afonydd Dyfi a Leri.
Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi yn cysylltu â nifer o grwpiau thematig sy’n annog cydweithredu rhwng busnesau, cyrff cyhoeddus a’r gymuned mewn pynciau megis addysg, twristiaeth, ymchwil a diwylliant.

www.dyfibiosphere.org.uk

01654 703965

AU6412