Cyhoeddi prosbectws newydd

15 Mawrth 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datgan eu bod yn cyhoeddi’r prosbectws newydd ar gyfer mynediad yn 2013.

Yn gynharach eleni, roedd y galw am lefydd yn 2012 mor fawr nes y bu’n rhaid i’r brifysgol boblogaidd hon gau ei chyrsiau oll i fyfyrwyr Cartref ac Ewropeaidd newydd a ymgeisiodd am lefydd wedi dyddiad cau UCAS, sef 15 Ionawr.

Esboniodd y Dirprwy Is Ganghellor, yr Athro Martin Jones:  “Er ein bod yn byw mewn oes gynyddol dechnolegol, mae angen mawr o hyd am gyfryngau cyhoeddedig traddodiadol. Gyda’r cynnydd mewn ceisiadau yr ydym wedi gorfod argraffu mwy o gopïau o’n prosbectws yn flynyddol, felly mae’r deisyfiad amdanynt yn fawr.”

Eleni, mae Prifysgol Aberystwyth wedi arwain y ffordd trwy gynnwys codau QR (ymateb sydyn) yn y prosbectws israddedig.

Mae’r codau yn galluogi i bobl sy’n berchen ar ffonau symudol datblygedig i sganio codau bar arbennig a fydd wedyn yn eu harwain yn syth at wefan neu gyflwyniad fideo. 

Bydd Aberystwyth ymysg y Prifysgolion cyntaf yn y DU i gyhoeddi prosbectws ‘QR gyfeillgar.’

Esboniodd yr Athro Jones, “Mae codau QR yn adlewyrchu datblygiad newydd a phwysig a fydd yn adfywio cyfrwng cymharol statig fel print. Cyfoethogir cyflwyniadau ar agweddau penodol, fel bywyd academaidd, adnoddau cymdeithasol, diwylliannol a dysgu, a disgrifiadau cwrs, trwy’r defnydd o’r dechnoleg hon. Daw codau QR â gwedd ryngweithiol newydd cyffrous i’n prosbectws traddodiadol ac yn caniatáu cysylltedd ar draws ystod eang o gyfryngau.”

“Bydd ymgeiswyr bellach yn medru darllen am y profiad myfyrwyr ardderchog a ddarperir ar eu cyfer yn Aberystwyth, a hefyd yn medru gwylio cyflwyniadau ar gyfryngau newydd.”

Am gopi o’r prosbectws newydd, cysyllter â ug-admissions@aber.ac.uk neu cliciwch draw at www.aber.ac.uk.

AU2112