Hwb werdd gwerth £20m

Chwith I’r dde. Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd a Mark Williams AS yn agoriad BEACON.

Chwith I’r dde. Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd a Mark Williams AS yn agoriad BEACON.

29 Mawrth 2012

Mae’r ganolfan bioburo BEACON yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, heddiw (Dydd Iau 29 Mawrth) wedi agor cyfleusterau ymchwil newydd fel rhan o fenter gwerth £20m.

Fe fydd yr ymchwil, ag agorwyd yn ffurfiol gan Alun Davies, Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, yn helpu busnesau i ddatblygu ffyrdd newydd o droi cnydau lleol yn gynnyrch masnachol.

Bydd y ganolfan y cyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae yno offer mawr sy’n medru defnyddio gwaith ymchwil y labordy ar raddfa fawr i gynhyrchu nwyddau, gwasanaethau a thechnolegau masnachol. 

Mae’r cyfleusterau newydd eisoes yn galluogi busnesau i ddatblygu ffyrdd newydd o drawsnewid cnydau megis rhygwellt, ceirch a miscanthus (porfa eliffant) yn gynnyrch amrywiol, gan gynnwys cemegau platfform, tanwydd a cholur.

Mae BEACON yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â phartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae’n derbyn cefnogaeth gwerth £10.6 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Un o’r busnesau sy’n rhan o’r fenter yw Tropical Forest Products yng Ngheredigion, sy’n datblygu cynnyrch o fêl wedi’i buro i’w ddefnyddio yn y diwydiant coluro.

Dywedodd Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell “Mae IBERS yn falch iawn o dderbyn swm mor sylweddol o arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru i sefydlu cyfleuster BEACON a datblygu ei allu bioburo yma yn Aberystwyth. Dyma bleidlais o hyder ym mhotensial ein hymchwil, sy’n gweithio’n agos gyda phartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe i ddatblygu dewisiadau yn lle olew, a rhoi sylw i sialens fyd-eang sylweddol.”

Dywedodd Alun Davies: “Rwy’n falch iawn o gael agor y cyfleusterau newydd hyn a fydd yn harneisio’r arbenigedd sydd o fewn ein prifysgolion a’n diwydiant i sbarduno datblygiad technolegau a chynnyrch newydd.

"Mae’r prosiect hwn yn enghraifft arall o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio potensial buddsoddi ynni i greu economi carbon isel sy’n creu swyddi a dyfodol llewyrchus i Gymru, ac yn dangos eto sut gellir buddsoddi arian yr UE i lunio’r amodau ar gyfer twf call, cynaliadwy a chynhwysol.”

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Tropical Forest Products, David Wainwright, “Ry’n ni’n gweithio gyda’r fenter BEACON gyda’r bwriad o wella effeithiolrwydd y broses hidlo, drwy dechneg arloesol sy’n cael ei alw’n bioburo, i ddatblygu ein cynnyrch. Bydd hyn yn golygu ein bod yn defnyddio llai o ynni,  yn cynhyrchu llai o wastraff ac yn gwella safon y cynnyrch. “

Mae prosiect BEACON yn cyfuno amrywiol brosesau Bioburo ar raddfa sy’n gofyn am offer arbenigol.

Mae chwaer ganolfan beilot BEACON sy’n cael ei rhedeg gan Brifysgol Bangor ym Mona ar Sir Fôn, i’w hagor yn swyddogol yn hwyrach eleni. Mae’n gweithio gyda busnesau yng Nghymru a thu hwnt i ddatblygu biogyfansoddion ee ar gyfer y diwydiant adeiladu.

AU10212