Robotiaid ar y traeth

20 Ebrill 2012

Bydd pobl ifainc a’u teuluoedd ar draws Gymru’n cael y cyfle i brofi cyfrifiadura yn yr awyr agored yn Labordy’r Traeth, digwyddiad Technocamps, a gynhelir ym Mandstand Aberystwyth rhwng 11yb a 3yh, dydd Sadwrn 12 o Fai 2012.

Labordy’r Traeth yw’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus rhad ac am ddim a drefnir gan dîm Technocamps sy’n rhan o’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda’r bwriad o roi cyfle i bobl ifainc rhwng 11-19 mlwydd oed i ddatblygu eu sgiliau cyfrifiadureg i lefel uwch na’r sgrin a’r allweddell arferol.

Mae’r digwyddiad undydd hwn yn agored i bawb sy’n awyddus i brofi technoleg yn yr awyr agored trwy hedfan barcutiaid (ac arnynt gamerâu), robotiaid tir, robotiaid hwylio, technoleg wisgiadwy, a llawer mwy.

Bydd rhai o’r profion yn defnyddio rhaglenni a gynlluniwyd gan bobl ifainc o Geredigion sydd wedi bod yn rhan o Technocamps trwy weithdai yn eu hysgolion a gweithdai gwyliau.

Yn mynychu’r Labordy Traeth fydd Dr Mark Neal, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg  ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un o’r academyddion sy’n trefnu Technocamps.

Mae Dr Neal yn awyddus i gael cymaint o bobl i gymryd rhan ag sy’n bosibl. Dywed ef, “Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i bobl ifainc lleol (rhai ohonynt sydd wedi bod eisoes i Technocamps), athrawon, addysgwyr, teuluoedd, darpar fyfyrwyr, twristiaid, ‘geeks’ technolegol, a’r sawl sydd heb ymdrin a’r fath dechnoleg o’r blaen – ni fydd rhaid ichi wybod dim am dechnoleg er mwyn cael amser da yn Labordy’r Traeth.

“Mae llawer o bobl yn meddwl fod cyfrifiadura yn beth a wneir o flaen sgrin ac allweddell ond mae cymaint o ffyrdd i gymryd rhan mewn rhaglennu cyfrifiadur ac electroneg sy’n siŵr o ddangos fod cyfrifiadura yn hwyl ac yn greadigol.”

Bydd academyddion a myfyrwyr eraill o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yno a fydd yn rhoddi cyflwyniadau ac yn cyfarfod y cyhoedd ac eraill o ddisgyblaethau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) y Brifysgol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Technocamps, yr Athro Faron Moller o Brifysgol Abertawe:
“Yr ydym am ennyn diddordeb pobl ifainc o bedwar ban Gorllewin Cymru mewn cyfrifiadura a pha fodd gwell o wneud hyn na thrwy ddod ag ef yn fyw yn y byd mawr tu allan.

“Gobeithiwn y bydd pawb a ddaw i’r dydd llawn hwyl yma yn gadael gydag ysfa i ddysgu a gwneud mwy o’r pethau rhyfeddol y gellir eu gwneud gyda chyfrifiaduron.”

Am fwy o fanylion ar Labordy Traeth Technocamps ewch at www.technocamps.com/events neu cysylltwch â Lisa Fisher ar 01970 622454 / lisa.fisher@technocamps.com.

Prosiect gwerth £6 miliwn, tan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg, yw Technocamps. Darpara sesiynau dyddiol ac wythnosol i bobl ifainc rhwng 11-19 mlwydd oed ar ystod o bynciau cyfrifiadurol cyffrous fel rhaglennu, roboteg, cryptograffeg, animeiddio a llawer mwy.

Mae’r rhaglenni Cyllid Strwythurol 2007-2013 yng Nghymru, sydd werth £3.2bn, yn cynnwys y rhaglenni Cyfluniad ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a rhaglenni Cystadleugarwch a Chyflogadwyedd Rhanbarthol Dwyrain Cymru. Darperir y rhaglenni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’u hamcan yw creu cyfleoedd cyflogaeth a hyrwyddo twf economaidd.

AU11912