Dathliadau Olympaidd

(Chwith i’r Dde) Bridget James, Yr Athro Qiang Shen, Susanna Ditton a Shon Rowcliffe.

(Chwith i’r Dde) Bridget James, Yr Athro Qiang Shen, Susanna Ditton a Shon Rowcliffe.

03 Mai 2012

Mae pedwar unigolyn o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi i gario’r Ffagl Olympaidd ac ymuno mewn noson o ddathliadau ar Gaeau’r Ficerdy, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Sul y 27ain o Fai.

Dewiswyd dau aelod o staff a dau fyfyriwr o blith cannoedd o ymgeiswyr i fod yn gludwyr y ffagl Olympaidd.

Bydd yr Athro Qiang Shen, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg, Bridget James o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol a’r fyfyrwraig o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Daeareg, Susanna Ditton, yn cario’r fflam trwy Aberystwyth.

Ym Mrynhoffnant cludwr y fflam fydd Shon Rowcliffe, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

I groesawi’r fflam Olympaidd i Geredigion mae noswaith o ddiddanwch ar gyfer yr holl deulu wedi’i threfnu gan LOCOG (Pwyllgor Trefnu Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd) gyda chefnogaeth y Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion.

Cynhelir y sioe, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, perfformiadau acrobatig a dawns, a Gaeau’r Ficerdy.

Mae Caeau’r Ficerdy wedi bod yn gartref i dimau rygbi, pêl droed a chriced y Brifysgol ers 1906, ac y maent hefyd wedi bod yn leoliad i ornestau criced dosbarth cyntaf gyda Chlwb Criced Sir Morgannwg.

Mae’r noswaith yn rhad ac am ddim a bydd yn dechrau am 5yh, gan bara dwy awr. Ar ddiwedd y perfformiad, bydd cludwr olaf y ffagl yn cynnau pair ar y llwyfan a fydd yn galluogi i bawb o’r gynulleidfa weld y Fflam Olympaidd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:  “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Ffagl Olympaidd a phobl Ceredigion i un o’n caeau chwarae. Bydd yn ddiwrnod i’r brenin i bawb fydd yno, yn enwedig i’r sawl lwcus fydd yn cario’r ffagl.

“Ar ran y Brifysgol, carwn longyfarch Susanna, Bridget, Shon a Qiang ar eu gorchest o gael eu dewis yn gludwyr y fflam.”

Gellir gweld mwy o wybodaeth am berfformiad y noson ar wefan Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk a rhyddheir manylion pellach ar deithio a threfniadau parcio yn fuan. Ni fydd angen archebu tocynnau rhag blaen.

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, sy’n cydlynu gweithgareddau’r diwrnod ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Yr ydym yn barod am ddiwrnod llawn cyffro ar draws Ceredigion. Mae digwyddiadau lleol yn cael eu trefnu ar hyd llwybr taith y Ffagl Olympaidd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, a bydd y sioe fin nos ar ddiwedd y daith yn darparu llwyfan ar gyfer y gorau o dalent ifanc Ceredigion.”

Cludir y Ffagl Olympaidd ar draws y DU gan 8000 o bobl a bydd yn cyrraedd Aberystwyth o Abertawe ar ddydd Sul y 27ain o Fai, gan adael tua Bangor y bore canlynol.

Llwyfanir y diddanwch gan LOCOG a thri Phartner Cyflwyno y Taith Gyfnewid y Ffagl Olympaidd 2012 - Coca-Cola, Lloyds TSB a Samsung.

Mae Susanna Ditton yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (IGES) ac fe’i henwebwyd i gario’r ffagl oherwydd ei hanes ysbrydolgar. Pan oedd hi’n eneth ifanc, goresgynodd broblemau â’i hasgwrn cefn a bwlian, ac yn fwy diweddar, treuliodd amser yn yr Affrig lle bu am chwe mis yn gwirfoddoli ac yn dysgu mewn ysgol difreintiedig yng Nghenya. Mae’r eneth 21 mlwydd oed yn redwraig traws-gwlad o fri, ac y mae’n aelod o Glwb Rhedeg Harriers y Brifysgol. Bydd y clwb yma’n cystadlu yr wythnos hon ym Mhencampwriaethau Athletau Awyr Agored Prifysgolion Prydain (BUCS), a gynhelir yn y Stadiwm Olympaidd fel digwyddiad prawf ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.

Enwebwyd Bridget James, sy’n hyfforddwraig ffitrwydd ac achub bywyd yn y Ganolfan Chwaraeon, gan ei chlwb rhedeg, Clwb Athletau Aberystwyth. Sefydlodd Bridget a’i gŵr Apêl Elain yn 2011 wedi i’w merch, sy’n dioddef o Afiechyd Cynhenid y Galon a Syndrom Deletion, dreulio pum mis yn yr ysbyty yn 2010. Mae’r apêl yn cefnogi pedair elusen allweddol mewn darparu gofal o safon ar gyfer y teulu. Mae Bridget hefyd yn redwraig ac yn nofwraig frwd, ac yn hoff iawn o’r gymnasiwm, yn ogystal â bod yn Hyfforddwraig Athletau a Throelli hyd at lefel dau y DU.

Bydd Shon Rowcliffe, myfyriwr blwyddyn gyntaf, 19 mlwydd oed, yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn cludo’r ffagl trwy bentref Brynhoffnant ger Aberteifi ar ddydd Sul y 27ain o Fai. Dioddefa Shon o syndrom Noonan, afiechyd genetaidd sy’n achosi datblygiad anarferol mewn rhannau niferus o’r corff ac sy’n effeithio ar o leiaf un ym mhob 2,500 plentyn. Yn wreiddiol o Bencader yn Sir Gaerfyrddin, mynychodd Shon Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul cyn dod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Qiang Shen, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg, hefyd wedi’i enwebu i gario’r ffagl yn Aberystwyth ar y dydd Sul. Bydd yr Athro Shen yn cario’r ffagl i nodi achlysur dathlu 100 mlwyddiant genedigaeth Alan Turing, sylfaenydd cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial, ac un o eiconau ymgyrch dorri codau yr Ail Ryfel Byd. Daeth Qiang i Aberystwyth o Brifysgol Caeredin yn 2004 gan dderbyn y Gadair mewn Cyfrifiadureg.

AU9212