Dathliadau’r Gemau Olympaidd

Yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon (canol) gyda Chludwyr y Fflam Olympaidd o Brifysgol Aberystwyth (chwith i’r dde) Qiang Shen, Bridget James, Shon Rowcliffe a Susanna Ditton.

Yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon (canol) gyda Chludwyr y Fflam Olympaidd o Brifysgol Aberystwyth (chwith i’r dde) Qiang Shen, Bridget James, Shon Rowcliffe a Susanna Ditton.

18 Mai 2012

Gydag ychydig o ddiwrnodau yn unig i fynd cyn i’r Ffagl Olympaidd gyrraedd Ceredigion, mae’r paratoadau ar droed ar gyfer noson o adloniant a dathlu ar Gaeau’r Ficerdy'r Brifysgol ar nos Sul 27 Mai.

Mae’r perfformwyr yn cynnwys Twist and Pulse a wnaeth hi i rownd derfynol Britains Got Talent, enillwyr Got to Dance yn 2011, Chris a Wes yn ogystal â'r band Kids in Glass Houses.

Bydd y gatiau yn agor am 4pm a bydd y sioe yn dechrau am 5pm, ac yn para am ddwy awr. Mae'r noson yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu tocynnau ymlaen llaw.

Ymhlith y rhai a fydd yn cario'r Fflam ar y diwrnod fydd dau aelod o staff a dau o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Bydd yr Athro Qiang Shen, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg, Bridget James o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol a’r fyfyrwraig o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Susanna Ditton, yn cario’r fflam trwy Aberystwyth.

Bydd Shon Rowcliffe, myfyriwr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn cludo’r fflam drwy Brynhoffnant.

Mae disgwyl i tua 100 o ddisgyblion ysgolion uwchradd o Geredigion groesawu'r Fflam Olympaidd ynghyd ag ensemble cerddorol, band roc, storïwyr a chôr.

Dylai pobl ddod yn gynnar i osgoi rhwystrau posibl ar y ffordd yn ystod taith y Ffagl o Aberteifi i Aberystwyth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar wefan Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk/olympaidd

Ar ddiwedd y perfformiad am 7pm, bydd cludwr fflam olaf y dydd yn cynnau crochan ar y llwyfan a fydd yn galluogi'r gynulleidfa i weld y Fflam Olympaidd.

Mae Caeau’r Ficerdy wedi bod yn gartref i dimau rygbi, pêl droed a chriced y Brifysgol ers 1906, ac y maent hefyd wedi bod yn lleoliad i ornestau criced dosbarth cyntaf gyda Chlwb Criced Sir Morgannwg.

AU16512