£13m i’r biowyddorau

23 Mai 2012

Bydd y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts, yn cyhoeddi heddiw y bydd cyllid sylweddol ar gael ar gyfer ymchwil ym myd biowyddoniaeth yn y Deyrnas Gyfunol sy’n cynnwys £13m ar gyfer y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darperir y cyllid gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) sydd wedi clustnodi hyd at £250m o fuddsoddiad strategol sy’n cynnwys 26 rhaglen gwyddoniaeth strategaethol ac 14 gallu ymchwil cenedlaethol allweddol, i’w ddarparu gan wyth o sefydliadau safon gorau’r DU am ymchwil biowyddoniaeth, gan gynnwys IBERS.

Bydd y buddsoddiad hwn yn gymorth i’r Deyrnas Gyfunol wrth iddi ymateb i sialensau megis cynaladwyedd bwydo poblogaeth byd sy’n tyfu o hyd, canfod ffynonellau tanwydd amgen i gymryd lle tanwydd ffosil, a chefnogi cymdeithas sy’n heneiddio i aros yn iach am hirach.

Dywedodd David Willetts, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth: “Mi fydd y buddsoddiad hwn o £250m gan y BBSRC ar gyfer rhan gyntaf o raglen ymchwil bwysig bum mlynedd yn cynnal gwyddoniaeth ragorol mewn rhai o sefydliadau a phrifysgolion blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol. Bydd hyn yn gyrru twf, cynnal swyddi sgiliau uchel ac yn golygu fod y Deyrnas Gyfunol ar y blaen ym myd biowyddoniaeth, gyda manteision mewn meysydd megis gofal iechyd a diogelwch cyflenwad ynni a bwyd.”  

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:
“Mae’r cyhoeddiad hwn gan y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth yn garreg filltir bwysig yn natblygiad IBERS fel canolfan ymchwil biowyddoniaeth o’r safon uchaf. Mae’n gydnabyddiaeth o’r ymchwil gwych sy’n cael ei gyflawni yma yn IBERS wrth ymrafael â rhai o’r problemau sy’n wynebu’r byd heddiw, newid hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr, a’r angen i ganfod tanwyddau i gymryd lle tanwyddau ffosil.”

Mae IBERS yn un o wyth sefydliad sydd wedi derbyn nawdd. Mae ganddynt oll swyddogaeth hanfodol i gefnogi cenhadaeth y BBSRC i ddatblygu dealltwriaeth wyddonol i hyrwyddo twf economaidd a chreu swyddi mewn sectorau pwysig fel bwyd, amaeth, deunyddiau adnewyddadwy, a chyffuriau.

Bydd y grantiau yn cefnogi ymchwil, strwythurau gwyddonol cenedlaethol allweddol, trosglwyddiad gwybodaeth, ymwneud â’r cyhoedd, a datblygiad sefydliadol.

Dywedodd Douglas Kell, Prif Swyddog BBSRC: “Mae’n wir fod gan Brydain, ymron i bob agwedd, yr adnoddau ymchwil biowyddoniaeth gorau yn y byd. Un o’r prif resymau y tu ôl i’r llwyddiant hyn yw cyllido strategol y BBSRC, ynghyd â’u hymgyrchoedd eglur a’u hadnoddau cenedlaethol unigryw. Fodd bynnag, nid yw bod ar y brig yn ddigon, os na wneir gwahaniaeth yn y byd. Trwy eu cysylltiadau agos â byd diwydiant a llunwyr polisi, a thrwy ymwneud â’r cyhoedd, mae’r sefydliadau hyn ar flaen y gad ym myd trosglwyddo biowyddoniaeth dechnegol yn ddeunyddiau i’w gwerthu, yn wasanaethau, ac yn gyngor.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn ymrwymiad mawr at y dasg o wireddu potensial economi’n seiliedig ar fiowyddoniaeth ym Mhrydain. Yr unig fodd y gellir gwireddu hyn yw trwy sail ymchwil gynaliadwy a rhagorol, a chyda’r bobl, y sgiliau, a’r adnoddau cywir.” 

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion £6.8m yn IBERS Gogerddan, a agorwyd yn swyddogol ychydig dros wythnos yn ôl, yn un o’r 14 adnodd pwysig strategaethol i dderbyn cyllid pellach fel rhan o’r cyhoeddiad ariannu diweddaraf gan y BBSRC.

Croesawyd y cyhoeddiad gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Daw’r newyddion gwych hwn yn fuan wedi agor dau adeilad newydd yn IBERS sydd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan y BBSRC a Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r BBSRC er mwyn atebion ar sail ymchwil ar gyfer heriau’r 21ain ganrif.”

Y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddol (IBERS)
http://www.aber.ac.uk/cy/ibers
Mae IBERS yn ganolfan ymchwil a dysgu o’r safon gorau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbynia glod rhyngwladol fel canolfan o ragoriaeth a dewis myfyrwyr ar gyfer astudio gwyddorau biolegol, amgylcheddol, ac amaethyddol.

Menter newydd yw IBERS sydd wedi dod â staff y Sefydliad Gwyddorau Biolegol ac Amaethyddol ynghyd â’r Sefydliad ar gyfer Ymchwil Glaswelltirol ac Amgylcheddol (IGER). Mae oddeutu 300 aelod o staff ymchwil, dysgu, a chefnogol yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategaethol a chymhwysol mewn bioleg o’r lefel enynnol a molecylau eraill i effaith newid hinsawdd a bio-egni ar amaeth gynaliadwy a defnydd tir. Darparant hefyd hyfforddiant ymchwil a sgiliau o’r safon gorau. Cydweithiant yn ffurfiol gyda Choleg y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor.

Trwy gysylltu prosesau a chanlyniadau ein harchwiliadau gwyddonol â gwaith y gwyddonwyr cymdeithasol y yn Aberystwyth a Bangor medrwn arwain polisi ar yr economi amaethyddol ac ar gymdeithasau gwledig.