Penwythnos Olympaidd

Cludwyr y Fflam Olympaidd o Brifysgol Aberystwyth Qiang Shen, Susanna Ditton, Shon Rowcliffe a Bridget James wrth Gaeau Ficerdy’r Brifysgol.

Cludwyr y Fflam Olympaidd o Brifysgol Aberystwyth Qiang Shen, Susanna Ditton, Shon Rowcliffe a Bridget James wrth Gaeau Ficerdy’r Brifysgol.

24 Mai 2012

Mae Aberystwyth yn cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon y penwythnos hwn wrth baratoi ar gyfer dathliad y Ffagl Olympaidd nos Sul (27 Mai).

Heddiw (25 Mai), bydd Aberystwyth yn cynnal rownd pump o Gyfres 2012 o'r Halfords Tour am 7pm ger yr Hen Goleg yn y dref.

Diolch i gydweithrediad cyllidol unigryw rhwng Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Tref Aberystwyth, Llywodraeth Cymru a’r dosbarthwyr mwyaf o deiars beic a beid modur yn y DU, Cambrian Tyres, bydd y gyfres yn dychwelyd i Aberystwyth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ar ddydd Sadwrn, bydd twrnamaint pêl-droed 7 bob ochr yn cychwyn am 9.30am yng Nghaeau’r Brifysgol ym Mlaendolau a fydd yn gweld 28 tim yn cystadlu mewn cystadleuaeth gornest gron.

Fe fydd y digwyddiad hwn, a drefnwyd gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, yn anelu at fod ychydig yn wahanol i'r cystadleuthau pêl-droed eraill drwy gyfuno'r holl agweddau gorau o'r gêm gyda, hwyl, mwynhad a cherddoriaeth.

I nodi degfed pen-blwydd yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, fe fydd yr Adran yn agor ei drysau i'r cyhoedd ar fore Sul rhwng 10am-12pm.

Os ydych erioed wedi meddwl beth mae’r 'cotiau gwynion' mewn labordai gwyddoniaeth chwaraeon yn eu gwneud – dyma’r cyfle i chi gwrdd â nhw a chael gwybod.

Yna, cynhelir dathliadau nos y fflam Olympaidd ar Gaeau’r Ficerdy, Prifysgol Aberystwyth, am 5yh ar nos Sul.

Ymysg y perfformwyr mae Twist and Pulse a wnaeth hi i rownd derfynol Britains Got Talent, enillwyr Got to Dance yn 2011, Chris a Wes yn ogystal â'r band Kids in Glass Houses.
Darlledir uchafbwyntiau’r digwyddiad ar ITV4 am 8:00yh ar Ddydd Llun yr 28ain o Fai.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Martin Jones; “Fel sefydliad addysg o’r safon gorau, yr ydym wrth gwrs yn awyddus i ddenu digwddiadau mawrion i’r dref, er mwyn dangos i’r cyhoedd fod Aberystwyth yn leoliad atyniadol i fyfyrwyr a thwristiaid.

“Mae gan y dref gymeriad unigryw, a bywiogrwydd trwy gydol y flwyddyn, nodwedd nas canfyddir mewn llefydd eraill. Ceir yma ystod o adnoddau diwylliannol, chwaraeon, a chymdeithasol sy’n destun eiddigedd i ddinasoed mawrion, ac yr ydym yn gweithio gyda’r cydweithwyr eraill i sicrhau parhad blynyddol y digwyddiad hwn fel testun balchder i Geredigion ac i Gymru.”

Fe fydd beicwyr o bob oedran yn gallu cymeryd rhan yn y gweithgareddau trwy gydol dydd Gwener a hefyd ar ddydd Sadwrn fel rhan o Ŵyl Feicio Aberystwyth.

Halfords Tour Series – Dydd Gwener 25 o Fai
Amser   Manylion      Dosbarth Hyd
2.00pm  Blwyddyn 3 & 4 Ceredigion Schools Race GoRace 1 lap
2.15pm  Blwyddyn 5 & 6 Ceredigion Schools  GoRace 2 lap
2.30pm  Ras Ysgolion Uwchradd 1 Mountain Bikes GoRace 2 lap
2.45pm  Ras Ysgolion Uwchradd 2 Road Bikes GoRace 3 lap
3.00pm  Sialens Town vs Gown   Go-Race 20mun + 1 lap
3.30pm  Aberystwyth Seafront Criterium  Regional C+ 30mun + 2 lap
5.00pm  Aberystwyth Seafront Criterium  Regional B 45mun + 2 lap
6.00pm Cyflwyno beicwyr Halfords Tour Series Podium at Start / Finish
7.00pm  Halfords Tour Series    E/1/2  1 awr + 5 lap

AU13812