Maricau llawn gan YouthSight

07 Mehefin 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi perfformio’n arbennig o dda yn yr adroddiad diweddaraf YouthSight Higher Expectations 2012.

Aberystwyth oedd y brifysgol orau yn y Deyrnas Gyfunol am y diddordeb a ddangosodd yn y myfyrwyr yn ystod y broses o wneud cais a pherfformiodd yn eithriadol o dda mewn nifer o feysydd eraill.

Mae’r canlyniadau yn seiliedig ar y fersiwn ddiweddaraf o Higher Expectations, astudiaeth o’r broses o wneud penderfyniadau gan fyfyrwyr israddedig, ac sydd yn cael ei chyhoeddi gan YouthSight (OpinionPanel Research gynt).

Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae Higher Expectations yn cyfweld â mwy na 12,000 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o 150 o sefydliad addysg uwch yn flynyddol ac mae ganddynt fynediad i 72,000 o gyfweliadau o sefydliadau addysg uwch ym mhob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am recriwtio: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn enwog am gyfeillgarwch y staff a’r myfyrwyr ac mae Adroddiad dylanwadol YouthSight yn cadarnhau hyn.”

“Ymddangosodd Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 uchaf am ansawdd ei phrosbectws, gwefan a chymwynasgarwch y staff gweinyddol. Daeth hefyd i’r brig yn y categori “dangosodd ddiddordeb ynof yn ystod y broses o wneud cais.”

Eglurodd yr Athro Martin Jones “Mewn oes lle mae disgwyl i fyfyrwyr gyllido eu hastudiaethau addysg uwch eu hunain, mae’n hanfodol bod prifysgolion yn rhoi gwybodaeth o’r safon uchaf i ymgeiswyr i’w helpu i wneud y dewis iawn. Mae’n dda iawn gweld bod prosbectws a gwefannau Aberystwyth wedi gwneud mor dda a bod ein staff rheng flaen wedi bod mor gymwynasgar.”

“Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn ymfalchïo mewn rhoi profiad o’r safon uchaf i fyfyrwyr ac mae’n hynod o braf cael cadarnhad o hyn gan Adroddiad YouthSight, sef un o’r adroddiadau mwyaf cynhwysfawr.”

AU15512