Gŵyl ffotograffiaeth The Eye

Credit: Glen Edwards

Credit: Glen Edwards

15 Mehefin 2012

Bydd y ffotograffydd tan gamp Roger Tiley, sy’n adnabyddus am ei waith yn cofnodi pyllau glo Cymru ac America, ymysg y ffotograffwyr blaengar o'r DU a thu hwnt fydd yn ymweld â gŵyl ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin (29 Mehefin – 1 Gorffennaf).

Cynhelir yr ŵyl dridiau, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Llygad, yng Nghanolfan y Celfyddydau, adran o Brifysgol Aberystwyth, a bydd yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau, cyfweliadau, adolygiadau portffolio ac arddangosfeydd.  

Ymhlith y ffotograffwyr eraill fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad mae David Hurn o Magnum Photos, y ffotograffydd portreadau o enwogion Cambridge Jones a ffotograffwyd Panos Pictures Abbie Trayler-Smith a Chloe Dewe Mathews.

Un o brif atyniadau’r ŵyl eleni fydd arddangosfa fawr o luniau Panos Pictures, swyddfa ffotograffiaeth sy’n arbenigo mewn materion cymdeithasol byd eang ac sy’n dathlu eu 25 mlwyddiant.

Yn arddangosfa Call The World Brother gwelir gwaith eu ffotograffwyr dogfen cyfoes, gan gynnwys Chris Keulen, GMB Akash, Robin Hammond, Andrew McConnell, ac Espen Rasmussen. Ymhlith yr arddangosfeydd eraill sydd wedi’u cadarnhau hyd yma yw Africa Against all Odds gan Glenn Edwards a gwaith gan y ffotograffydd bywyd gwyllt arobryn Andy Rouse.

Bydd nifer gyfyngedig o adolygiadau portffolio unigol ar gael ar yr egwyddor mai’r cyntaf i’r felin caiff falu, gellir eu casglu wrth archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl. Lluniwyd yr adolygiadau gan Sophie Batterbury, Golygydd Lluniau yr Independent on Sunday a Rob Norman, Pennaeth Delweddau yn Media Wales.

Gwelir hefyd waith gan y ffotograffwyr Eamonn McCabe, cyn Olygydd Guardian Pictures; Sean O'Hagan, colofnydd ffotograffiaeth y Guardian a’r Observer; y ffotograffydd gwasg arobryn John Downing MBE FRPS; y gohebydd ffotograffig Marco Longari, Prif Ffotograffydd Agence France-Presse;  a Will Troughton, Curadur Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

I archebu eich tocynnau, cliciwch ar y wefan ar www.aberystwythartscentre.co.uk/theeye neu ffoniwch Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 01970 623232.

AU14012