Graddio yn fyw

Graddio

Graddio

10 Gorffennaf 2012

Bydd Seremonïau Graddio Prifysgol Aberystwyth, sy'n dechrau heddiw (dydd Mawrth 10 Gorffennaf), yn gweld tua 2180 o fyfyrwyr graddedig erbyn diwedd yr wythnos.

Mae'r seremonïau yn digwydd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth o ddydd Mawrth 10 tan ddydd Gwener 13 Gorffennaf.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, "Hoffwn longyfarch pawb sydd yn graddio o Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon - mae hwn yn gyfnod pwysig iawn ac mewn sawl ffordd, uchafbwynt ein blwyddyn fel Prifysgol.

"Bydd hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i mi gan mai dyma fy Seremoni Raddio cyntaf fel Is-Ganghellor, ac edrychaf ymlaen yn fawr at annerch pob un o’r graddedigion a dymuno'n dda iddynt yn y dyfodol."

Ychwanegodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth, "Mae hwn yn amser arbennig iawn i ni i gyd. Ar gyfer y graddedigion, mae'n anterth o flynyddoedd lawer o waith caled ac ymdrech. Mae staff a swyddogion Prifysgol Aberystwyth yn eu cyfarch ar eu llwyddiant ac rydym yn dymuno pob cyflawniad wrth iddynt gamu ymlaen yn eu bywydau, gyda thudalen newydd ar gyfer ysgrifennu pennod newydd."

Bydd seremonïau graddio eleni yn cael ei ffrydio'n fyw ar-lein ar http://www.aber.ac.uk/cy/graduation/video/stream/. Mae trefn y seremonĂ¯au fel a ganlyn:

Dydd Mawrth 10 Gorffennaf 2012

Seremoni 1: 11am

  • Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Seremoni 2: 3pm

  • Gwleidyddieath Ryngwladol
  • Seicoleg

Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2012

Seremoni 3: 11am

  • Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Yr Ysgol Gelf
  • Ieithoedd Ewropeaidd

Seremoni 4: 3pm

  • Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Cyfrifiadureg
  • Astudiaethau Gwybodaeth

Dydd Iau 12 Gorffennaf 2012

Seremoni 5: 11am

  • Ysgol Rheolaeth a Busnes
  • Y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg

Seremoni 6: 3pm

  • Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
  • Cymraeg

Dydd Gwener 13 Gorffennaf 2012

Seremoni 7: 11am

  • Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
  • Hanes a Hanes Cymru

Seremoni 8: 3pm

  • Y Gyfraith a Throseddeg
  • Addysg

AU22312