Ffagl Gobaith

Elizabeth Murphy MBE, Cadeirydd a Sylfaenydd Ffagl Gobaith gyda'r Athro April McMahon.

Elizabeth Murphy MBE, Cadeirydd a Sylfaenydd Ffagl Gobaith gyda'r Athro April McMahon.

11 Gorffennaf 2012

Y darparwr gofal hosbis yng Ngheredigion, Ffagl Gobaith, fydd elusen Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth am 2012/13.

Gwnaed y cyhoeddiad gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol, ar ddydd Mawrth y 10fed o Orffennaf, yn ystod y gyntaf o’r seremonïau graddio eleni.

Sefydlwyd Ffagl Gobaith yn 2000 a’i hamcan yw optimeiddio safon byw pobl sy’n dioddef o salwch datblygiedig, anwellhadwy a chynhyddol, a’u teuluoedd, o ddiagnosis i farwolaeth a phrofedigaeth.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn lleol, ac ar gael yn syth i bobl Ceredigion a’r mannau cyfagos ac yn Nyffryn Dyfi.

O’u swyddfeydd yn Aberystwyth, Aberteifi a Machynlleth mae’n darparu cymorth i gleifion a’u gofalwyr sy’n galluogi i bobl wneud yn fawr o’u bywydau yn yr amser sydd ar ôl gennynt.

Dywedodd yr Athro McMahon: “Mae’n fraint cael cefnogi gwaith rhagorol Ffagl Gobaith. Fel y cyflogwr mwyaf yng Nghanolbarth Cymru, yr ydym yn ymwybodol iawn o’n dyletswyddau i’n staff presennol a’n cyn-staff, a gŵyr llawer ohonynt am rywun sydd wedi derbyn budd o gael cymorth diflino Ffagl Gobaith dros y blynyddoedd.”

“Mae ein cefnogaeth am y flwyddyn sydd i ddod yn adlewyrchiad o’n gwerthfawrogiad o ymroddiad y sylfaenydd Mrs Elizabeth Murphy MBE a phawb sy’n ymwneud â’r elusen. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r staff yn Ffagl Gobaith er mwyn asesu sut medrwn ddarparu’r cymorth mwyaf effeithiol ac addas ar eu cyfer.”

Tra’n siarad wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd a Sylfaenydd Ffagl Gobaith, Elizabeth Murphy MBE; “Croesewir y cyhoeddiad hwn gan y Brifysgol yn fawr. Mae cefnogaeth sefydliad mawr i elusen hosbis fel ni yn hanfodol a bydd yn ein galluogi ni i barhau i ddatblygu’r gwasanaethau sydd mor bwysig i’r sawl sy’n dioddef adegau mor anodd.”

“Mae llawer o elusennau hosbis yn derbyn nawdd oddi wrth ddiwydiant mawr. Yr oeddem yn ffodus o gael ein cynorthwyo gan un o’r cyflogwyr preifat mwyaf, Rachel’s Dairy, pan sefydlwyd yr elusen. Yn anffodus, prin yw’r cwmnïau sector breifat mawr yng Ngheredigion, a chan hynny, prin hefyd yw’r cyfleoedd am gyllid. Felly mae’r cyhoeddiad fod y Brifysgol hynaf yng Nghymru yn cefnogi’r hosbis leiaf yng Nghymru yn hwb mawr inni oll,” ychwanegodd.

Alan Axford OBE yw Ymgynghorydd Meddygol yr elusen. “Y claf yw canolbwynt gofal arferol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, yn hytrach na’r gofalwyr sy’n aml yn darparu gofal mewn amgylchiadau anodd iawn. Gall eu hymroddiad beri iddynt gael eu hynysu’n gymdeithasol a dyma le mae’r gwasanaethau a ddarperir gan Ffagl Gobaith mor werthfawr,  a chefnogaeth sefydliadau fel y Brifysgol mor bwysig.”

Fel yr elusen enwebedig, mae gan Ffagl Gobaith stondin yn seremonïau graddio’r Brifysgol yr wythnos hon, lle darperir gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir ganddynt.

Wrth ystyried athroniaeth yr Elusen, ychwanegodd Elizabeth Murphy “Ein hamcan yw gwneud diwedd bywyd yn ddathliad o’r ysbryd ddynol, nid trasiedi i’w alaru.”

AU23812