Cadair newydd Waitrose

Yr Athro Nigel Scollan

Yr Athro Nigel Scollan

13 Gorffennaf 2012

Bydd penodiad Cadair newydd Waitrose ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu cymorth ymchwil o’r safon uchaf i’r archfarchnad, a’i chwmnïau cysylltiedig, i wella cynaladwyedd systemau cynhyrchu bwyd y Deyrnas Gyfunol (DG)

Adlewyrcha’r penodiad hŷn ymroddiad Waitrose at ddarganfod datrysiadau hirdymor i ddiogelwch bwyd a materion eraill sy’n effeithio ar amaeth yn y DG.

Bydd y swydd yn hyrwyddo dulliau blaengar, gyda gwyddonwyr, amaethwyr, aelodau o’r diwydiant bwyd a gwneuthurwyr polisi, oll yn gweithio mewn partneriaeth i wella effeithlonrwydd, cynaladwyedd a gwytnwch cadwyn darparu bwyd y DG.

Mae’r archfarchnad yn cyllido Cadair Waitrose mewn Bwyd a Ffermio yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r athro Nigel Scollan wedi’i gadarnhau fel deiliad y swydd, a bydd yn dechrau’n syth.

Mae diwydiant amaethyddol y DG yn mynd trwy adeg o newid sylweddol wrth iddo ymateb i’r angen i fwydo poblogaeth sy’n tyfu a lleihau’r ôl troed carbon. Yn ogystal, mae afiechydon anifeiliaid a phlanhigion yn sialensiau parhaus y mae’n rhaid i ffermwyr a thyfwyr ddygymod â nhw yn y dyfodol, ynghyd â materion diogelwch bwyd a staen cynhyrchiant.

Dywedodd Heather Jenkins, Cyfarwyddwr Strategaeth Amaethyddol yn Waitrose, “Bydd y swydd newydd hon yn arwain ymchwil hanfodol fydd yn archwilio sut gall amaeth y DG fod yn ddatrysiad i’r problemau hyn.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS “Bydd penodiad Nigel Scollan i Gadair Waitrose mewn Bwyd a Ffermio yn canolbwyntio ar lunio cysylltiadau rhwng amaeth, gwyddoniaeth ac un o’r arwerthwyr mwyaf blaengar. Yr wyf ar ben fy nigon gyda phenodiad Nigel ac edrychaf ymlaen i weld y swydd hon yn adeiladu ar ein gwaith presennol gyda Waitrose a’u partneriaid.”

Yr Athro Nigel D. Scollan
Ar hyn o bryd mae Nigel Scollan yn bennaeth y grŵp ymchwil ar systemau anifeiliaid ac y mae hefyd yn gyfrifol am gyfnewid gwybodaeth agri-fwyd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Astudiodd ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caeredin, ac yna bu am gyfnod ôl-ddoethuriaethol o ddwy flynedd ym Mhrifysgol Guelph, Ontario, Canada, cyn ymuno â’r Sefydliad Glaswelltir ac Ymchwil Amgylcheddol, Aberystwyth, yn 1993 ac yna Prifysgol Aberystwyth yn 2008.

Canolbwynt ei ymchwil yw cynorthwyo datblygiad systemau mwy amgylcheddol-gyfeillgar a chynaliadwy o ofalu am anifeiliaid, gan archwilio sut gellir cyrraedd lefelau uwch o ddiogelu cyflenwad bwyd ac effeithlonrwydd cynhyrchu. 

Dywedodd yr Athro Scollan “dyma swydd gyffrous a herfeiddiol ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda Waitrose a’i bartneriaid i helpu cefnogi darpariaeth bwyd gwych i’w cwsmeriaid”.

Mae Nigel yn Gyn Lywydd ar y Gymdeithas Brydeinig o Wyddoniaeth Anifeiliaid ac yn Gymrawd yn y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol yn y DG.

Waitrose
Mae gan Waitrose, hoff archfarchnad Prydain*, 280 o siopau yn y DG ac Ynysoedd y Sianel, ac y maent yn barhaus yn cyflawni twf gwerthiannau sy’n sylweddol o flaen gweddill y farchnad.**. Prif yriant ei berfformiad cryf yw llwyddiant y ddarpariaeth hanfodol Waitrose, Brand Price Match, arlwy odidog o gynhyrchion a chludiant am ddim ar gyfer siopa ar-lein, yn ogystal ag ymroddiad hir dymor i ganfod bwydydd lleol a rhanbarthol gorau y DG. Mae cynhyrchion ac arnynt labeli Waitrose bellach yn cyfrif am 54% o’r gwerthiant. Cyfuna Waitrose gyfleuster archfarchnad gyda dealltwriaeth a gwasanaeth siop arbenigol - mae’n ymrwymedig i ddarparu bwydydd o safon sydd wedi’i gaffael yn gyfrifol gyda safonau uchel ar wasanaeth i gwsmeriaid. www.waitrose.com

* Arolwg Boddhad Archfarchnad Blynyddol yn Which?; Hoff Arwerthwr Bwyd yng Ngwobrau Blynyddol Dedwyddwch Cwsmeriaid Verdict; Hoff Archfarchnad yn y Gwobrau ‘Good Housekeeping’

** Kantar Worldpanel

IBERS

Mae IBERS yn sefydliad byd enwog am ragoriaeth astudiaethau yn y gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig.

Sefydliad unigryw ydyw o fewn Addysg Uwch yn y DG sy’n tynnu maeth o arbenigedd academaidd i ymgymryd ag ymchwil flaengar i wella ymarferion amaethyddol ac i arwain polisi. Ymysg y gwaith a gyflawnir gan yr adran, ceid dysgu, ymchwil, menter a throsglwyddiad gwybodaeth sy’n galluogi IBERS i chwarae swyddogaeth werthfawr yn yr ymgyrch fyd eang i ddygymod â rhai o’r sialensiau sy’n gwasgu fwyaf ar y byd.

Sefydlwyd IBERS ym mis Ebrill 2008 yn dilyn yr uno rhwng y Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol (IGER), oedd gynt yn rhan o’r Cyngor Ymchwil i Fiodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), gyda Phrifysgol Aberystwyth. Derbynia IBERS gyllid strategol oddi wrth y BBSRC, a chaiff hefyd gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae IBERS yn cyflogi 350 aelod o staff, ac mae ganddo drosiant blynyddol o £26 miliwn ac adlewyrcha’r adran wyddoniaeth sy’n seiliedig ar y tir fwyaf yn y DG. Mae buddsoddiad o £25 miliwn yn agosáu at wireddiad er mwyn helpu i gyrraedd y weledigaeth hon.