Eidion iachach o laswellt tewach

Sarah Morgan, Myfyrwaig PhD

Sarah Morgan, Myfyrwaig PhD

24 Gorffennaf 2012

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddol (IBERS) wedi dechrau ar prosiect ymchwil ar y cyd gyda Celtic Pride Ltd i adnabod a deall yr amrywiaeth sydd yn y cynnwys braster ac asidau brasterog a berthyn i wneuthuriad glaswellt, ynghyd ag asesu effaith bresennol dulliau cynhyrchu cnwd porthi ar wneuthuriad braster eidion.
Macrofaethyn hanfodol yw braster i’r diet dynol ac y mae’n angenrheidiol i gynnal bywyd.

Fodd bynnag, nid yw pobl yn bwyta digon o frasterau defnyddiol fel  asidau brasterog omega-3 amlannirlawn (polyunsaturated), a chan hynny’n mae’n rhaid inni archwilio ffyrdd i wella hyn. Un dull o gynyddu brasterau defnyddiol yn y diet yw cic eidion wedi’i fwydo â chnwd porthi, gan fod gwair yn cynnwys llawer o asid brasterog omega-3.

Mae Celtic Pride wedi tyfu’n un o frandiau cig eidion mwyaf adnabyddus Cymru ac mae Cig Eidion Celtic Pride yn cario’r statws Adnabyddwr Daearyddol tan Ofal (PGI), statws a roddir i gynhyrchion bwyd y gellir olrhain pob rhan ohonynt yng ngwlad eu tarddiad.

Merch i ffermwr defaid o Landdeusant yw Sarah Morgan, a bu iddi, ‘gwympo mewn cariad â Gwyddoniaeth Anifeiliaid’ wrth astudio ar gyfer ei gradd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Bellach mae’n fyfyrwraig PhD wedi’i chyllido gan Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS), a bydd yn treulio tair blynedd yn gweithio’n agos gyda Celtic Pride. Meddai “Mae glaswellt yn adnodd pwysig iawn i ffermwyr, gan ei fod yn rhad, yn naturiol ac yn gynaliadwy.

Bydd gwartheg a borthir ar ddietau sy’n seiliedig ar laswellt yn cynhyrchu eidion gyda lefelau uwch o asidau brasterog amlannirlawn o’u cymharu â gwartheg a borthir ar ddwysfwydydd. Digwydd hyn gan mai’r prif asidau brasterog mewn glaswellt yw’r asid brasterog amlannirlawn omega-3 hanfodol.”

Dywed yr Athro Nigel Scollan, Cadair Waitrose mewn Bwyd ac Amaeth yn IBERS, “Trwy weithio ar y prosiect hwn ehangir ein partneriaeth bresennol gyda Celtic Pride, a rhydd weledigaeth a dull gweithredu ymarferol i’r ymchwil newydd hwn tuag at ddealltwriaeth well o reolaeth braster ac amrywiaeth mewn glaswellt. Ein huchelgais yw creu brasluniau ar gyfer cynhyrchu eidion wedi’i fwydo ar laswellt gyda gwell gwneuthuriad brasterog. Bydd y prosiect hefyd yn creu effaith academaidd, economaidd, a chymdeithasol megis hyrwyddiad gwybodaeth, cyfleoedd masnacheiddio a buddiannau iechyd.”

Medd Tim Rowe o Celtic Pride:

“Dyma gydweithrediad cyffrous, a bydd cael cydweithio gyda thîm IBERS a Sarah yn enwedig yn galluogi Celtic Pride i barhau i ddangos ein hymroddiad at ein grŵp amaethwyr-gynhyrchwyr a’n partneriaid masnachol Wynnstay a Bwydydd Castell Howell trwy gynhyrchu cynnyrch sy’n ticio’r holl flychau cywir o ran ymarfer gorau mewn ffermio cynaliadwy ac sydd hefyd yn gweithio tuag at gynnyrch gorffenedig a fydd yn adnabyddus i’r defnyddwyr fel cynnyrch o safon uchel ac un sydd hefyd yn sicrhau diet iachach.”

AU25012