Cronfa Hyrwyddiad Dysgu ac Addysgu

01 Gorffennaf 2012

Cyllidwyed ystod anarferol o eang o brosiectau eleni gan y Gronfa Hyrwyddiad Dysgu ac Addysgu – rhaglenni meddalwedd sy’n addysgu am esblygiad pysgod, gwneuthur marcio’n haws, cynorthwyo myfyrwyr i gymryd gwell nodiadau mewn darlithoedd, dysgu dulliau ystadegol sylfaenol – ond roedd un peth yn gyffredin iddynt oll; yr oeddent oll yn manteisio ar dechnoleg flaengar er mwyn hyrwyddo addysgu.


Gan gynnig hyd at £2000, amcan y gronfa yw cefnogi prosiectau sy’n gwella dysgu ac addysgu. Mae’r Gronfa’n canolbwynio ar feysydd a bwysleisir yn Strategaeth Ehangu Mynediad, Addysgu, a Dysgu Aberystwyth / Bangor, the fund is designed to do what it says on the tin, back projects that improve learning and teaching. Rhaid i unrhyw gais am y nawdd yma fod yn rhai sylweddol sy’n cynnwys mwy nag un adran academaidd neu fod yn ddefnyddiol ar draws sawl adran. 

Mae SELFISH yn adnodd e-ddysgu newydd sy’n esbonio esblygiad mewn pysgod. Cynlluniwyd yr adnodd gan Dr Sonia Consuegra o IBERS a Dr Amanda Clare a Dr Bernie Tiddeman o’r Adran Gyfrifiadureg, ac fe’i ddatblygwyd, tan eu cyfarwyddiad, gan y myfyriwr cyfrifiadureg israddedig Matthew Harrison-Jones.  Gellir canfod y teclyn newydd hwn a fydd yn cynorthwyo myfyrwyr i ddysgu am gysyniadau sylfaenol mewn esblygiad ar http://selfish.dcs.aber.ac.uk. Mae’r tim hefyd yn datblygu fersiwynau i’w defnyddio mewn ysgolion ac yn Eigionfa Bryste.

Mae Dr Neal Snooke o’r Adran Gyfrifiadureg yn datblygu meddalwedd a fydd o gymorth wrth farcio arholiadau ac aseiniadau a darparu adborth i fyfyrwyr. Cynlluniwyd ef hefyd i ddarparu gwelliannau mewn cysondeb a phrydlondeb adborth i fyfyrwyr, tra dylai’r taenlenni canlyniadau a gynhyrchir yn awtomatig fod o ddefnydd i ddarlithwyr a gweinyddwyr.

Edrych ar sut gall myfyrwyr wneud y defnydd gorau o ddarlithoedd ac adnoddau arlein yw amcan y tim o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Dr Louise Marshall, Dr Megan Owen a Dr Elisabeth Salter. Focws eu prosiect hwy, Making the Best of Both? Enhancing the symbiotic relationships between face-to-face lectures and Virtual Learning Environments, yw gwella safon cadw nodiadau myfyrwyr mewn darlithoedd, ac ymateba i’r adborth a dderbyniwyd oddi wrth fyfyrwwyr a’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.

Ac mae cyfres o fideos a fydd yn cyflwyno, disgrifio ac esbonio dulliau ystadegol syml yn cael eu datblygu gan Dr Basil Wolf (IBERS), Dr Malcolm Leitch (IBERS), Dr Les Tumilty (Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff), Dr I-Chant Chiang (Seicoleg) a’r Athro Bryn Hubbard (IGES).  Gellir gweld  y rhain trwy Blackboard ac fe’u cynlluniwyd i’w defnyddio ar draws adrannau’r Brifysgol. Byddant yn cyfuno meddalwedd dal sgrin gyda thechnolegau cyswllt digidol, ac yn cynnwys cwisiau a ffurflenni adborth.

Pe carech chwi wybod mwy am y Gronfa Hyrwyddiad Dysgu ac Addysgu ewch at http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/funding/ltef/.