Spurs yn sbarduno

06 Awst 2012

Ymwelodd Sioe Deithiol Clwb Peldroed Tottenham Hotspur â chaeau y Brifysgol ym Mlaendolau ar yr2-3ydd Awst  gan roi cyfle I bêl-droedwyr ifanc Ceredigion i weithio ar eu sgiliau pêl.

Trosglwyddodd hyfforddwyr Academi Spurs yr ymarferion diweddaraf er gwella sgiliau a thechneg ac roedd sgowtiaid y Clwb hefyd wrth law i asesu'r holl chwaraewyr. Mae'r sioeau teithiol yn rhoi cyfle I’r bobl ifanc i ddysgu chwarae'r gêm a datblygu’r sgiliau hylifedd ac ymosod sy'n nodweddu tim Spurs. Cafodd dros 90 o blant rhwng 5 - 15 mlwydd oed y cyfle i gymryd rhan yn yr hyfforddiant Uwch Gynghrair cyffrous.

Dywedodd Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Ganolfan Chwaraeon: "Roeddem yn falch iawn o’r cyfle I groesawi un o gewri’r Uwch Gynghrair i Aberystwyth, ac roedd yr achlysur yn nodi dychwelyd Blaendolau fel lleoliad pwysig ar gyfer digwyddiadau chwaraeon yn dilyn helynt y llifogydd diweddar!"

AU26212