Perfformio defodau

Perfformio Defodau/Performing Rituals/Rituels en Action

Perfformio Defodau/Performing Rituals/Rituels en Action

05 Medi 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ryngwladol ar ddefodau a’r berthynas gyda llenyddiaeth, anthropoleg a pherfformio rhwng o 5 tan 8 Medi.

Mae'r symposiwm rhyngwladol Perfformio Defodau / Rituels en Action, yn gydweithrediad rhwng adrannau Ieithoedd Ewropeaidd ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ac Adran Ffrangeg Kings College, Llundain.

Mae’r symposiwm pedwar diwrnod yn cael ei chynnal ym Mhenbryn ac Adeilad Parry-Williams, cartref yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae defodau a pherfformiadau yn cynnig deunydd cyfoethog am y rhyngweithio rhwng dyn a’r byd ac yn enwedig y prosesau o greu artistig.

Ymhlith y themâu fydd yn cael eu harchwilio bydd pryder, aberth, camwedd, marwolaeth, y sanctaidd, diwinyddiaeth, gormodedd, trais, digwyddiadau dyddiol, therapi, gwleidyddiaeth a hunaniaeth.

Mae'r gynhadledd wedi denu nifer o gyfraniadau rhyngddisgyblaethol ac ysgolheigion blaenllaw rhyngwladol o feysydd llenyddiaeth gymharol,  astudiaethau ffilm, theatr ac astudiaethau perfformio, anthropoleg, athroniaeth, seicdreiddiad, estheteg a'r celfyddydau gweledol.

Bydd mwy na 40 o bapurau yn Ffrangeg ac yn Saesneg. Byddant yn cynnwys gweithdy gan Dead Good Guides (John Fox a Sue Gill) ar sut i drefnu eich angladd eich hun;  perfformiad o The Threat of Silence gan Jill Greenhalgh, a sesiwn plenary gan Myriam Watthee-Delmotte o Brifysgol Louvain-la-Neuve yng Ngwlad Belg, ar  " Llenyddiaeth Berfformiadol  Ddefodol : Ysgrifennu a Galaru".
Un o brif amcanion y gynhadledd fydd i arsylwi ar yr hyn y gall perfformiad defodol ddweud wrthym am y weithred greadigol ac i ganolbwyntio ar greadigrwydd ei hun.

I gael rhaglen lawn a mwy o wybodaeth am y sesiynau a’r siaradwyr ewch at: www.performingrituals.com

Mae croeso i bawb.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â  Dr Bruno Sibona ar 01970 622556 / bms@aber.ac.uk

AU28712