Talu terynged i David Jones

"The Garden Enclosed", David Jones

12 Medi 2012

Bydd Canolfan Ymchwil David Jones, a leolir yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, yn cael ei lansio mewn cynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) ddydd Gwener, 14 Medi.

Gweithiodd David Jones (1895-1974) yn bennaf mewn dyfrlliw, gan beintio portreadau, tirwedd, a phynciau chwedlonol a chrefyddol. Ynghyd â bod yn ysgythrwr pren ac yn ddylunydd o arysgrifau, efe oedd awdur y gerdd rhyfel epig In Parenthesis, a gydnabuwyd gan T S Eliot fel cerdd  o bwys mawr.

Ganwyd Jones yn Brockley, swydd Caint a Chymro oedd ei dad. Datblygodd diddordeb cynnar mewn celf a dylanwadodd ei gredoau Pabyddol a’i dreftadaeth Gymreig yn fawr ar ei waith.

Ym mis Ionawr 1915 ymunodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gwasanaethodd yn Ffrainc a Fflandrys cyn dychwelyd i astudio celf yn Ysgol Gelf Westminster.

Cyfarfu â’r ysgythrwr a'r cerflunydd Eric Gill ac ymunodd â'i Urdd St Joseph a Sant Dominic yn Ditchling lle bu amryw o grefftwyr yn cydweithio i ennill bywoliaeth a bri, a dyma le y trodd ei law at ysgythru copr a phren. Yn 1925 ymunodd â Gill yng Nghapel y Ffin, Sir Frycheiniog.

Yn 1932 dioddefodd gyfnod o salwch meddwl difrifol o ganlyniad i'w brofiadau yn y Rhyfel Mawr, a throdd ei gefn ar gelf am bum mlynedd, cyn ail-gydio yn ei waith yn 1937 pan gyhoeddwyd In Parenthesis, ei waith mwyaf adnabyddus.

Fel Jones bydd y ganolfan newydd yn canolbwyntio ar y rhyngweithio creadigol rhwng y gair a’r ddelwedd. Bydd y prif linyn arall o ymchwil yn ymwneud â hanes a dehongliad o foderniaethau llenyddol a’u gwaddol, yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gwaith David Jones yn elfen bwysig o'r hanes hwnnw ac yn arwydd o'i gymhlethdod - ac yn codi cwestiynau am ddadleoliad diwylliannol, y canol a'r cyrion, hunaniaeth genedlaethol ac ieithyddol a naratifau traddodiadol hanes llenyddol.

Bydd y Ganolfan yn cefnogi staff ac ôl-raddedigion sy'n ymchwilio i archifau helaeth ffigurau allweddol moderniaeth Cymru a leolir yn LlGC, yn cynorthwyo gyda cheisiadau grant, yn cynghori ar brosiectau penodol a threfnu cynadleddau.

Dywedodd Dr Luke Thurston, Darlithydd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a threfnydd y gynhadledd, “Fe ddes i i Brifysgol Aberystwyth wyth mlynedd yn ôl ac roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn moderniaeth Iwerddon, ond ar ôl cyrraedd yma dechreuais ymchwilio i wreiddiau moderniaeth Gymreig gan deimlo ei fod yn faes o astudiaeth oedd angen ymchwilio ymhellach iddo.

"Mae cael archif gelf ac ysgrifenedig LlGC ar fy stepen drws fel dod o hyd i drysor wedi'i gladdu a rhoddodd gyfle i mi ymchwilio i waith David Jones, gwaith a fu’n hynod ddylanwadol ac uchel ei barch, ond sydd wedi’i esgeuluso i raddau helaeth.

 "Bydd y Ganolfan yn adeiladu ar gryfderau presennol yr Adran mewn astudiaethau llenyddol a gwaith creadigol ac yn meithrin rhwydwaith cydweithredol o brosiectau a digwyddiadau sy'n ymwneud â gwahanol adrannau’r Brifysgol (megis Celf, Hanes a Hanes Cymru ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu) a LlGC, yn ogystal â Chanolfan y Celfyddydau ac orielau yng Nghymru a thu hwnt."

"Drwy enwi'r ganolfan newydd ar ôl David Jones, byddwn yn rhoi hwb i lenyddiaeth fodern Gymreig o fewn yr adran a hefyd yn anrhydeddu artist a bardd amlochrog, dawnus sydd â’i apêl yn parhau tan y dydd hwn."

Cynhelir y gynhadledd yn Y Drwm, LlGC ac mae’n cynnwys darlith gan yr Athro Paul Hills o Sefydliad Courtauld, Llundain, arbenigwr ar fywyd a gwaith David Jones ac a fu’n gyfrifol am arddangosfa o’i waith yn Oriel y Tate.

Bydd amrywiaeth o sgyrsiau trwy gydol y dydd ar Foderniaeth yng Nghymru, y Gair a’r Ddelwedd a chyflwyniad gan LLGC ar Gasgliad ac Archif David Jones.  Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda ffilm gan Adam Alive a Derek Shiel o'r enw David Jones Between the Wars: the years of Achievement.

Tocynnau i’r gynhadledd: £25.00; Myfyrwyr £15.00 (yn cynnwys cinio, lluniaeth ysgafn a ffilm); £5.00 ffilm yn unig am 5.00pm.

I archebu lle, ewch i www.llgc.org.uk neu ffoniwch 01970 632 548.

AU30812