Marathon ymfudo

Gwalch

Gwalch

25 Medi 2012

Diolch i wybodaeth a ddarperir drwy declyn GPS ac offer a bwerwyd gan ynni solar a noddir gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, gall ymchwilwyr gadarnhau bod y gwalch ifanc wedi cwblhau ei ymfudiad i Orllewin Affrica.

Mae'r trawsyrrydd, sy'n danfon data lleoliad a phatrwm hedfan rheolaidd yn ôl i ymchwilwyr IBERS, yn dangos fod Ceulan, yr unig walch a eleni, wedi ymgartrefu yn agos i dref Rosso ger y ffîn o Mauritania a Senegal ar hyd yr Afon Senegal.

Mae data yn cael ei dderbyn bob 48 awr ac mae'r tîm wedi creu map mudo rhyngweithiol sy'n galluogi staff a myfyrwyr  i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar symudiadau Ceulan a'i frodyr a chwiorydd (a anwyd yn 2011). Mae'r map ar gael yn http://www.aber.ac.uk/en/ibers/research/research-groups/abeb-new/osprey-migration/

Cymerodd Ceulan ychydig o dan bythefnos i gwblhau ei daith 2,953 milltir o aber y Ddyfi ger Machynlleth ddydd Llun 3 Medi, i Rosso ddydd Sadwrn 15 Medi.

Ers cyrraedd ar yr Afon Senegal ddeng niwrnod yn ôl, mae wedi canolbwyntio ei ymdrechion ar bysgota gan aros o fewn pymtheg milltir i’w gartref newydd ar bob adeg.

Eglurodd Vicky King, cydlynydd ymchwil llawn-amser prosiect yn IBERS a gwirfoddolwr rheolaidd gyda Phrosiect Gweilch Dyfi, "Roedd hwn yn ymfudiad rhyfeddol o gyflym i walch ifanc ar ei daith gyntaf i dir gaeafu gorllewin Affrica.

"Wrth edrych ar y data mudo GPS yn fanwl, mae'n ymddangos ar fwy nag un achlysur fod Ceulan wedi teithio am sawl diwrnod heb fwyta gan fanteisio ar y tywydd ffafriol. Bu'n hedfan, weithiau drwy'r nos, mewn ymdrech i gyrraedd ei gyrchfan cyn gynted ag y gallai ef.

"Nid yw’n symud pellteroedd mawr ar hyn o bryd, ac mae'n ymddangos ei fod yn rhoi llawer o ymdrech i mewn i bysgota i geisio adennill y pwysau a chyflwr corff a gollodd yn ystod ymfudo."

Mae gan y trawsyrrydd fywyd gweithredol o oddeutu pum mlynedd, sy’n caniatáu i ymchwilwyr IBERS ddilyn adar yn ystod sawl taith ymfudo rhwng eu tiriogaethau bridio haf yng Nghymru a’u tiroedd gaeafu yng Ngorllewin Affrica.

Mae'r trawsyrrydd yn darparu gwybodaeth werthfawr ac arloesol am ecoleg a mudo’r gwalch a fydd yn y pen draw yn helpu i warchod yr adar a’u hadfer yng Nghymru a thu hwnt.

Au33512