Lleihau'r perygl o syrthio
1 October 2012Lansio gwefan newydd gan bartneriaid iechyd, sy’n cynnwys yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, er mwyn lleihau’r perygl o gwympo i bobl hŷn.
Genom iaith
5 October 2012Cefnogaeth gan yr Academi Brydeinig yn galluogi ymchwilwyr i weithio ar “genom cyflawn y iaith Gymraeg”.
Masnach mewn pobl
8 October 2012Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn enwebu athro yn y Gyfraith o Aberystwyth i gael ei ethol i GRETA
Cydnabyddiaeth BAFTA
9 October 2012John Hefin, cyn Gymrawd Dysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn derbyn BAFTA am gyfraniad arbennig.
Dyddiaduron coll
12 October 2012Gallai dyddiaduron coll Hugh Blaker rhoi cliw hanfodol i darddiad yr ail Fona Lisa yn ôl Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf.
Darlith Goffa Hugh Rees
15 October 2012Y genetydd blaenllaw, yr Athro Steve Jones, i draddodi darlith gyda'r pennawd “Llosgach a dawnsio gwerin: dau beth i’w hosgoi” ar y 15fed Hydref.
Her BRIT 2012
16 October 2012Fel rhan o’i daith gerdded epig 2012 milltir, bydd Phil Packer MBE yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 17 Hydref.
Trafod yr argyfwng ariannol
17 October 2012Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, Andrew Davies, i drafod Cymru a’r argyfwng ariannol yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes.
Croesawu Arolwg QAA
5 October 2012Arolwg Sefydliadol y QAA yn pwysleisio safon uchel graddau Aberystwyth.
Dyddio radiocarbon
18 October 2012Gwaddod o lyn yn Siapian sydd wedi ei ddadansoddi yn Aberystwyth yn ymestyn cywirdeb techneg dyddio radiocarbon o 12,000 i 54,000 o flynyddoedd.
Ar fynyddoedd ia
19 October 2012Channel 4 News yn adrodd ar waith y rhewlifegydd Dr Alun Hubbard, a fu hefyd yn gynghori’r BBC ar ei cyfres newydd Operation Iceberg.
Adroddiad llifogydd
22 October 2012Disgwyl mwy o lifogydd tebyg i rai Mehefin 2012 yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan arbenigwyr o’r Sefydliad Daearyddiaeth y Gwyddorau Daear.
Bywyd newydd i’r Hen Goleg
24 October 2012Y Brifysgol yn gwahodd tendrau ar gyfer astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y gwaith o ailddatblygu'r Hen Goleg.
Argyfwng Taflegrau Ciwba
24 October 2012Prifysgolion Aberystwyth a Chaergrawnt yn cynnal cynhadledd ryngwladol i nodi 50 mlynedd ers Argyfwng Taflegrau Ciwba.
Effaith seicolegol cancr
25 October 2012Ymchwil o Aberystwyth i effeithiau seicolegol cancr y pidyn ar wrywdod yn sail ar gyfer datblygu gwefan iechyd newydd.
Astudio mynyddoedd iâ
29 October 2012Rhewlifegydd o Aberystwyth yn astudio genedigaeth mynydd iâ fel ran o raglen y BBC, Operation Iceberg.
Teyrnas sy’n diflannu?
30 October 2012Yr hanesydd blaenllaw, Yr Athro Norman Davies, i drafod y cwestiwn ‘Ydy’r Undeb Ewropeaidd yn Deyrnas sy’n Diflannu?’ ar 1 Tachwedd.
Darlith gyfreithiol
31 October 2012Y Gwir Anrhydeddus Y Barnwr Arglwydd Judge i draddodi Darlith Flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymru ar ddydd Iau 1af Tachwedd.