Lleihau'r perygl o syrthio

Grŵp Strategol Cwympiadau Ceredigion

Grŵp Strategol Cwympiadau Ceredigion

01 Hydref 2012

I gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig (dydd Llun 1 Hydref), mae partneriaid iechyd yng Ngheredigion yn lansio gwefan newydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r camau all bobl hŷn gymryd i leihau'r tebygolrwydd o syrthio ac osgoi niwed.

Mae'r partneriaid yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Age Cymru Ceredigion, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Ceredigion, Gofal a Thrwsio Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion.

Mae'r wefan, Grŵp Strategol Cwympiadau Ceredigion, wedi cael ei chynllunio i hysbysu pobl o’r camau syml y gall unigolyn eu cymryd er mwyn osgoi cwympo.

Mae’r pethau sydd angen eu hystyried yn cynnwys ymarfer corff i gynnal cryfder, profion llygaid a chlyw rheolaidd yn ogystal â gwisgo esgidiau addas, i'w gweld ar y wefan: http://www.aber.ac.uk/falls/

Esboniodd Dr Joanne Hudson, Pennaeth yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Gall cwympo gael canlyniadau corfforol a seicolegol difrifol. Yn ogystal â chleisiau, torri esgyrn, ac mewn rhai achosion marwolaeth, gall cwympo leihau annibyniaeth a dinistrio hyder.

"Mae ymarfer neu fod yn gorfforol weithgar yn cynorthwyo i gynnal iechyd cardiofasgwlaidd a chyhyrol. Gall hefyd leihau'r tebygolrwydd o salwch meddwl megis iselder a’ch gwneud yn llai tebygol o fod angen triniaeth yn yr ysbyty. Mae gweithgaredd corfforol hefyd yn lleihau'r gyfradd o ddirywiad gwybyddol, gwella’r cof, cynorthwyo gyda phatrymau cysgu, a chynnal agwedd gadarnhaol."

Bob blwyddyn mae tua 3.4 miliwn o bobl dros 65 oed yn dioddef codwm ac mae Age UK yn amcangyfrif fod modd osgoi hyd at hanner y cwympiadau drwy ddilyn y camau cywir.

Dywedodd Janet Knill, Cydlynydd Gwasanaeth Cynllunio Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, "Eleni cynhaliodd y grŵp ei gynhadledd a digwyddiad rhwydweithio gyntaf ac roedd yn llwyddiant mawr. Mae'r wefan yn cynnwys fideo o'r siaradwyr a chyflwyniadau a fydd, yr ydym yn gobeithio, o ddiddordeb i bobl."

Mae Prifysgol Aberystwyth wrthi'n gwneud gwaith ymchwil, sydd wedi ei gyllido gan Bwyllgor Cronfeydd Elusennol Hywel Dda ac Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, er mwyn cynorthwyo ymgynghorwyr yn Ysbyty Bronglais i adnabod oedolion hŷn sydd yn fwy tebygol o gwympo.

Bydd ymchwilwyr yn y Brifysgol yn mesur newidiadau mewn màs y cyhyrau, cydbwysedd, cryfder a safon bywyd seicolegol pobl hŷn ac wedi canfod bod ymarfer corff dros gyfnod o chwe wythnos yn ddigon er mwyn gweld cynnydd mewn iechyd meddylion a lles ffisiolegol.

AU33712