Ar fynyddoedd ia

Bywyd ar y rhewlif. Credit Katrin Lindbäck

Bywyd ar y rhewlif. Credit Katrin Lindbäck

19 Hydref 2012

Gwelwyd y Dr Alun Hubbard, Rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth ar raglen Channel 4 News yr wythnos hon. Ymunodd criw ffilm o Channel 4 gyda fe a thim o ymchwilwyr, ar fwrdd yr SV Gambo wrth iddynt groesi haen rew Yr Ynys Las, http://www.channel4.com/news/unprecedented-greenland-ice-melt-may-change-weather

Ar ddiwedd y mis, bydd Operation Iceberg yn cael ei ddarlledu ar BBC Two; cyfres fydd yn dilyn hynt a helynt cyrch arloesol yr SV Gambo, wrth i’r tim ffilmio a’r gwyddonwyr groniclo bywyd y mynyddoedd rhew o’r dechrau i’r diwedd, a chan obeithio datgelu gwybodaeth gwyddonol newydd.

Os am wybod mwy am y gwaith a wnaethpwyd gan Alun Hubbard a chriw yr SV Gambo ar rewlif Store, gorllewin Yr Ynys Las, ewch i The Greenland Ice Sheet

Mae Operation Iceberg yn dechrau ar BBC Two ar Hydref 30.


AU36512