Dysgwyr Gydol Oes i’w Gwobrwyo

Gwyneth Jones, Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn, yn derbyn y wobr gan yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor

Gwyneth Jones, Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn, yn derbyn y wobr gan yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor

02 Tachwedd 2012

Mae myfyriwr sydd wedi bod yn ddysgwr gydol oes am 22 o flynyddoedd a myfyriwr ifanc sydd ag awtistiaeth, ymhlith y dysgwyr gydol oes sydd wedi derbyn gwobrau mewn seremoni arbennig yn ddiweddar yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd Gwyneth Jones a Jill Thaller eu dwy eu cyflwyno gyda’r wobr Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn, tra cafodd Jeff Smith y wobr am Ddysgwr Cymraeg y Flwyddyn a Blanca García-Lisbona Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn.

Fe wnaeth Gwyneth Jones o Langrannog, sydd wedi bod yn fyfyriwr am 22 mlynedd, adael yr ysgol pan yn 15 oed a dychwelyd i addysg yn hwyrach yn ei bywyd. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio cwrs mewn Hanes Rwsia gyda'r Brifysgol Agored.

Dywedodd, "Mae'n fraint enfawr i ennill y wobr hon. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Brifysgol am roi'r cyfle imi i ddysgu am 22 mlynedd. Yr wyf yn arbennig o ddiolchgar i fy nhiwtor, Nicole, sydd wedi dysgu’r pwnc gyda chymaint o frwdfrydedd a hiwmor."

Mae Jill Thaller, myfyriwr celf o Aberteifi, wedi gwneud cynnydd eithriadol dros y pedair blynedd diwethaf ac mae wedi bod yn arbennig o gefnogol i fyfyrwyr eraill. Fe ddaeth yn wreiddiol i'r cyrsiau Dysgu Gydol Oes drwy raglen ehangu mynediad y Brifysgol ac mae wedi cymryd nifer o gyrsiau celf, gan gynnwys cerflunio.

Myfyriwr Mathemateg llawn amser yw Jeff Smith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o dde Lloegr, mae Jeff wedi ymroi ei hun ym mywyd Cymru yn Aberystwyth ac mae hyd yn oed yn cymryd modiwlau Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei gamp yn fwy byth gan ei fod yn awtistig.

"Mae ennill y wobr hon yn fraint fawr i mi, ac yn garreg filltir arbennig wrth i mi symud ymlaen ar y daith i ddod yn rhugl yn y Gymraeg," meddai Jeff.

Cafodd Tiwtor y Flwyddyn ei gyflwyno i Blanca García-Lisbona, tiwtor Sbaeneg a enwebwyd gan fyfyrwyr am ei gwaith arbennig.

Mae Blanca, sydd yn wreiddiol o Sbaen, wedi cael ei chanmol am ei gallu i addysgu cyrsiau sydd yn hwyl ac yn ddiddorol wrth drochi’r myfyrwyr yn iaith a diwylliant Sbaen a De America. "Mae'n gyffrous iawn i wybod bod y myfyrwyr wedi cael profiad da o ddysgu gyda mi, a'u bod wedi cael hwyl wrth ddysgu," meddai.

Mae'r seremoni hefyd yn dathlu llwyddiant 27 o fyfyrwyr a oedd wedi cyrraedd carreg filltir arbennig yn eu taith dysgu.

Maent yn cynnwys dysgwyr Cymraeg a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn arholiadau 'Defnyddio'r Gymraeg' CBAC ar lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd, a hefyd myfyrwyr a gafodd dystysgrifau addysg uwch bellach mewn Achyddiaeth, Ieithoedd modern, Ecoleg maes, Ysgrifennu creadigol, a Chelf a dylunio.

Cyflwynwyd y gwobrau gan yr Athro Tim Woods, Deon Cyfadran y Celfyddydau, yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor, Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor, Dr Martin Wilding, Dirprwy Ddeon y Gwyddorau, a Dr Malcolm Thomas, Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.

AU37712