Ail dymor i’r Llywydd

Syr Emyr Jones Parry

Syr Emyr Jones Parry

06 Tachwedd 2012

Penodwyd Syr Emyr Jones Parry i wasanaethu am ail gyfnod fel Llywydd Prifysgol Aberystwyth.

Dechreuodd Syr Emyr, sydd yn gyn-Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i’r Cenhedloedd Unedig, ar y swydd ym mis Ionawr 2008 ac mae ei gyfnod pum mlynedd yn dod i ben ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Cafodd ei benodiad am ail dymor ei gymeradwyo mewn cyfarfod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 5 Tachwedd.

Dywedodd Syr Emyr: “Mae’r fraint hon yn hyfrydwch ac yn anrhydedd, ac rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo i arwain y Brifysgol drwy’r cyfnod cyffrous nesaf.”

Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro April Mcmahon: “Rwyf wrth fy modd fod Llywyddiaeth Syr Emyr wedi ei hymestyn am gyfnod o bum mlynedd; cafodd hwn gefnogaeth unfrydol Cyngor y Brifysgol.

“Mae arweinyddiaeth Syr Emyr wedi bod yn gryf ag iddi weledigaeth. Mae’n uchel ei barch ymysg ein myfyrwyr a’n staff, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef wrth ddatblygu ein Prifysgol ymhellach fel arweinydd hyderus ac uchelgeisiol o Addysg Uwch yng Nghymru.”

Yn wreiddiol o Sir Gâr, cafodd Syr Emyr ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Prifysgol Caerdydd, lle bu’n astudio Ffiseg Ddamcaniaethol, ac yna yng Ngholeg St Catharine Caergrawnt lle derbyniodd radd doethuriaeth mewn Ffiseg Polimer.


Ymunodd â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn 1973, a bu’n gweithio yng Nghanada, y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel ac ym Madrid.

Yn 2001 cafodd ei benodi’n Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol ar Gyngor Gogledd Môr yr Iwerydd, ac yna yn 2003 cafodd ei benodi’n Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, swydd yn bu ynddi tan ei ymddeoliad yn 2007.

Cafodd Syr Emyr ei urddo’n Gymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2006.

Deiliaid blaenorol y swydd:

1874-1895 Y Gwir Anrhydeddus Henry Austin – Barwn 1af Aberdâr, GCB, DCI

1895-1913 Y Gwir Anrhydeddus Stuart Baron Rendel

1913-1926 Syr John Williams, BT, GCVO, LLD, MD, DSC

1926-1944 Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Davies, MA LLD

1944-1954 Thomas Jones, CH, MA, LLD

1955-1964 Syr David Hughes Parry, QC, MA, DCL, Hon LLD

1964-1976 Syr Ben Bowen Thomas, MA, LLD

1977-1985 Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Cledwyn, CH, Hon LLD

1985-1997 Syr Melvyn Rosser Hon LLD, FCA

1997-2007 Yr Arglwydd Elystan Morgan, LLB

AU38112