“Cymru ar ei Hennill”

Leanne Wood AC

Leanne Wood AC

12 Tachwedd 2012

Mae’n bleser gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru groesawu Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru, i draddodi ei 13eg Darlith Flynyddol nos Lun y 12fed o Dachwedd 2012.

Teitl y ddarlith yw ‘Cymru ar ei Hennill / A Winning Wales’. Bydd yn cael ei thraddodi am 7.00yh yn Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Ganed Leanne Wood yn y Rhondda, lle mae’n parhau i fyw hyd heddiw.  Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Tonypandy, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd.  Cyn ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, roedd Leanne yn gweithio fel tiwtor proffesiynol a bu’n darlithio mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Bu hefyd yn gweithio fel swyddog prawf a gweithiwr cymorth gyda Chymorth i Fenywod Cwm Cynon yn ystod 2001 a 2002.  Mae’n parhau i fod ynghlwm â Chymorth i Fenywod Cwm Cynon yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd eu Bwrdd Ymddiriedolwyr. Chwaraeodd ran fawr ym mudiad yr undebau llafur a than yn ddiweddar,  bu’n gadeirydd grŵp Undeb PCS yr holl bleidiau yn y Cynulliad.   

Yn ystod ei chyfnod fel Aelod Cynulliad, bu’n gyfrifol am bortffolios Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd, Cyfiawnder Cymdeithasol, a Thai Plaid Cymru.
Mae Leanne wedi cynhyrchu dwy ddogfen bolisi fawr i Blaid Cymru. Yn 2008, cyhoeddodd Gwneud ein Cymunedau’n fwy Diogel a oedd yn dadlau dros ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.  

Yn 2011, cyhoeddwyd Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd, lle’r oedd Leanne yn dadlau dros gael rhaglen i greu swyddi gwyrdd wedi’i hanelu at adfywio ardaloedd cyn-feysydd glo’r cymoedd. Mae’n cynnwys mentrau fel : Coleg Sgiliau Adeiladu Gwyrdd; rhoi cynllun trafnidiaeth integredig i’r cymoedd ar waith; creu banc tir ar gyfer ynni adnewyddadwy a chynhyrchu bwyd; a rhaglen i adnewyddu adeiladau treftadaeth. Mae hefyd yn hyrwyddo darparu cymorth ariannol yn seiliedig ar fenthyciadau ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac ar gyfer sefydlu mentrau cydweithredol gwyrdd.

Ar 15 Mawrth 2012, etholwyd Leanne yn Arweinydd Plaid Cymru, gan ddod y ferch gyntaf i arwain y blaid.  Ymhlith ei diddordebau ar wahân i wleidyddiaeth mae dysgu Cymraeg a garddio.

Wrth edrych ymlaen at y ddarlith, dywedodd, Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ei bod yn “falch dros ben i gael croesawu Leanne Wood i draddodi Darlith Flynyddol 2012 Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Fel arweinydd cymharol newydd Plaid Cymru, edrychwn ymlaen yn fawr at glywed am ei gweledigaeth hi ar gyfer gweld Cymru ar ei Hennill”.

Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru, ac fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol bellach fel canolfan ymchwil bwysig iawn ar ranbartholdeb a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.

Hon yw trydedd Darlith Flynyddol ar ddeg Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r siaradwyr blaenorol wedi cynnwys Tri o Brif Weinidogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Alun Michael AS, Rhodri Morgan AC, a Carwyn Jones AC, yn ogystal ag Ieuan Wyn Jones AC, Yr Arglwydd Griffiths o Fforestfach, Syr Simon Jenkins, yr Athro Tom Nairn, Yr Athro Robert Hazell, Yr Athro Michael Keating, Kirsty Williams AC., Huw Lewis AC, ac Adam Price AS.

AU38912