Ditectif teledu

Mathias - Richard Harrington

Mathias - Richard Harrington

14 Tachwedd 2012

Fe fydd Plas Gogerddan Prifysgol Aberystwyth yn cael ei drawsnewid yn orsaf heddlu yn ystod y chwe mis nesaf fel rhan o gyfres teledu ditectif fawr.

Fe fydd y gyfres, o’r enw ‘Mathias’ neu ‘Hinterland’ yn y fersiwn Saesneg, yn cael ei darlledu ar S4C a BBC Wales, ac yn cael ei dosbarthu yn rhyngwladol gan All3Media. Richard Harrington sydd yn chwarae’r brif ran.

Rhwng diwedd Rhagfyr 2012 a Mai 2013, bydd actorion, cynhyrchwyr, gweithwyr camera, sain, colur a gwisgoedd o gwmni cynhyrchu teledu Fiction Factory yn treulio llawer o'u hamser ym Mhlas Gogerddan, neu'r Orsaf Heddlu fel y bydd yn cael ei adnabod dros y misoedd nesaf.

Esboniodd Gethin Scourfield, cynhyrchydd gyda Fiction Factory, "Fe fydd y gyfres yma yn gyfle gwych i ddangos y lleoliadau a’r tirwedd anhygoel yng Ngheredigion.

"Bydd Plas Gogerddan yn lleoliad pwysig gan y bydd llawer iawn o'r digwyddiadau yn digwydd yn yr ystafelloedd holi, digwyddiadau a chyfweld yn y Plas. Yn ogystal â ffilmio, bydd gweithdai’r saer hefyd yn cael eu lleoli yno, a fydd yn ei wneud yn le prysur iawn yn ystod yr wythnosau nesaf."

Hyd at yn ddiweddar iawn, Plas Gogerddan oedd cartref adran Adnoddau Dynol y Brifysgol. Fe wnaeth yr adeilad wrthsefyll y llifogydd difrifol yng Ngheredigion ym mis Mehefin eleni ac mae bellach yn ôl i'w hen ogoniant o ganlyniad i waith adnewyddu.

Adeiladwyd y Plas tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif. Dyma oedd cartref y teulu Pryse a werthodd y plasty a'r rhan fwyaf o'r ystâd i’r Brifysgol ym 1949.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Staff a Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, "Rydym wrth ein bodd bod y Plas yn mynd i ymddangos yn y ddrama dditectif newydd a chyffrous hon - mae wir yn benthyg ei hun yn dda i bencadlys heddlu gyda'i goridorau niferus ac ystafelloedd mawr.

"Nid ar Aberystwyth ar ardal gyfagos yn unig y bydd y gyfres yn canolbwyntio. Bydd hefyd yn cynnwys golygfeydd gwych a chefn gwlad Ceredigion, cyfle gwych i ddangos beth sydd gennym yma i weddill y byd."

Bydd Mathias yn cael ei darlledu ar S4C yn hwyr yn 2013, ac yna yn y Saesneg ar BBC Wales yn 2014.

AU39312