Genom moch

Dr Denis Larkin

Dr Denis Larkin

14 Tachwedd 2012

Mae dilyniant genom moch wedi ei gwblhau a’i anodi am y tro cyntaf gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ymchwil Consortiwm Rhyngwladol Dilyniannu Genom Moch ei arwain gan ymchwilwyr o brifysgolion Illinois, Wageningen a Chaeredin.

Dr Denis Larkin, darlithydd mewn Genomeg Anifeiliaid o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth fu’n arwain y Grŵp Dadansoddi Esblygiad Cromosom mewn Moch sydd yn rhan o’r Consortiwm.

Mae Dr Larkin yn un o brif awduron y papur, Analyses of pig genomes provide insight into porcine demography and evolution, sy'n cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawnNature ar ddydd Iau 15 Tachwedd 2012.

Dyma'r tro cyntaf i wahaniaethau rhwng y genom mochyn a genomau mamaliaid eraill gael ei ddatgelu a'i ddadansoddi'n fanwl ar lefel genom cyfan.

Canfuodd yr ymchwilwyr fod gan foch 22,000 o enynnau codio protein ac fod ychwanegiad diweddar o enynnau sydd yn gyfrifol am eu gallu i arogli. Yn ogystal mae’nt yn adrodd ar ddemograffeg moch, ac esblygiad ymaddasol ac i’r cromosomau.

"Adrefnwydd cromosomau moch yn sylweddol wedi i foch a dyn wahan o hynafiad cyffredin tua 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl”, meddai Larkin.

Dan oruchwyliaeth Larking, bu’r myfyriwr graddedig o Brifysgol Aberystwyth, Jitendra Narayan, yn gosod cromosomau’r mochyn ochr yn ochr â dilyniannau naw o famaliaid eraill, â llygod, cŵn, ceffylau a gwartheg yn eu mysg.

Daeth o hyd i 100 o ad-drefniadau esblygol sy'n nodweddu cromosomau mochyn.
"Mae'n anhygoel i weld aildrefnu hynafol yn y DNA o rywogaethau cyfoes. Gall hanes esblygol cyfan o organeb gael ei ddarllen o'i DNA", meddai Jitendra.

Cyflawnodd Larkin a chydweithwyr o Brifysgol Illinois, Prifysgol California a Phrifysgol Caint, ddadansoddiad manwl o’r ad-drefnu fu o enom yn y cromosomau mochyn.

AU38012