Antiques Roadshow

George y Kakapo

George y Kakapo

26 Tachwedd 2012

Fe fydd Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth yn ymddangos unwaith eto ar y rhaglen deledu boblogaidd Antiques Roadshow ddydd Sul 2 Ragfyr am 8yr hwyr, a seren y sioe fydd George, parot o amgueddfa sŵoleg y Brifysgol.

Hwn fydd yr ail rifyn o’r Antiques Roadshow i gael ei ddarlledu o’r Ganolfan - cafodd y cyntaf ei ddarlledu ar ddydd Sul 6ed o  Dachwedd 2011 - a’r rhan olaf o ddiwrnod llwyddiannus gyda chriw'r BBC a'r gymuned leol.

Cyrhaeddodd y parot Kakapo, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel parot tylluan, y Brifysgol fel rhan o gasgliad a ddaeth o ystâd Trawsgoed yr Iarll Lisburne yn y 1900au. Parot mawr iawn sydd ddim yn medru hedfan yw’r Kakapo. Mae’n frodor o Seland Newydd ond bellach dim ond ar ynysoedd sydd wedi eu gwarchod y mae’n byw.

Esboniodd Dr Rupert Marshall, darlithydd mewn ymddygiad anifeiliaid yn y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), "Roedd y prisiwr Adam Schoon, wedi ei hudo gan George ac ef oedd seren y sioe!

"Roedd Adam Schoon bron yn sicr mai parot wedi ei baratoi gan y tacsidermydd enwog o Aberystwyth, James Hutchings, ydoedd. Mae ein casgliad sŵolegol, sydd wedi ei leoli yn IBERS, yn adnodd unigryw a hanfodol ar gyfer addysgu ac mae’n cael ei ddefnyddio’n aml gan ein myfyrwyr."

Dechreuodd James Hutchings weithio yn Aberystwyth yn y 1860au ac roedd y teulu Hutchings yn cael eu hystyried gyda’r gorau a’r mwyaf cynhyrchiol ymysg tacsidermwyr rhanbarthol.

Cafodd y ddau rifyn o’r rhaglen boblogaidd eu recordio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ddydd Iau 9 Mehefin 2011 a daeth dwy fil o bobl drwy'r drysau i gael cyngor ac amcangyfrif o werth ar eiddo etifeddol, trysorau cartref a bargeinion cist car.

Ychwanegodd Louise Amery, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, "Fe wnaethon ni wirioneddol fwynhau ymweliad yr Antiques Roadshow â Chanolfan y Celfyddydau. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'r tîm o stiwardiaid gwirfoddol lleol a fu’n gweithio mor galed drwy'r dydd i arwain ymwelwyr o gwmpas y lle.

"Roedd yn ddiwrnod heulog braf ac felly roedd Aberystwyth yn edrych ar ei orau ac roedd yna awyrgylch gynnes a chyfeillgar yn y Ganolfan. Roedd arbenigwyr hen bethau’r rhaglen yn hael iawn â'u hamser, ac rydym yn gobeithio y byddant yn dod yn ôl yma i ffilmio eto yn y dyfodol!"

Ynghyd â rhai o arbenigwyr hen bethau a chelf gain fwyaf blaenllaw Prydain, roedd y cyflwynydd poblogaidd Fiona Bruce hefyd wrth law drwy gydol y dydd i siarad â chymeriadau diddorol Aberystwyth.

Au40512