Tic Creadigol Skillset

Cymeradwyaeth y diwydiant i safon cyrsiau Ffilm a Theledu

Cymeradwyaeth y diwydiant i safon cyrsiau Ffilm a Theledu

30 Tachwedd 2012

Mae gradd Ffilm ac Astudiaethau Teledu BA (Anrh) Prifysgol Aberystwyth a’r cwrs cyfatebol sy'n cael ei ddysgu drwy’r Saesneg ill dwy wedi derbyn Tic Creadigol Skillset yn dilyn proses asesu drylwyr gan arbenigwyr sy'n gweithio yn y Diwydiant Creadigol.

Mae Tic Creadigol Skillset, nod ansawdd y diwydiant, yn cael ei ddyfarnu i gyrsiau sy'n seiliedig ar ymarfer sy’n paratoi'r myfyrwyr orau ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Mae'r ddwy radd yn cael eu darparu gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a sefydlwyd ym 1995, ac sydd erbyn hyn yn un o'r adrannau mwyaf ym Mhrydain o ran staff a nifer y myfyrwyr.

Dywedodd Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran, "Rwyf wrth fy modd â'r ffaith fod ein cyrsiau israddedig mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu wedi cael eu cydnabod gan Skillset yn y modd hwn. Mae'n dangos bod ein cyrsiau yn darparu’r sgiliau craidd, yn ogystal â’r sgiliau allweddol sy’n angenrheidiol i'n myfyrwyr graddedig ar gyfer diwydiant creadigol sy'n newid yn gyson."

Ychwanegodd Elin Haf Gruffydd Jones, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Partneriaethau Allanol yn yr Adran, “Mae’r gydnabyddiaeth gan Tic Creadigol Skillset yn dangos fod ein cyrsiau cyfrwng Cymraeg a Saesneg wedi cael eu cynllunio ac yn cael eu dysgu’n dda iawn, a bod gennym adnoddau a chyfleusterau addas i wneud hynny. Mae cysylltiadau hirdymor yr Adran gyda’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn greiddiol i’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni.”

Eglurodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu, Addysgu a Chyflogadwyedd y Brifysgol, "Mae chwyldro wedi bod yn y diwydiant ffilm a theledu yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf ac mae'r adran wedi arwain y ffordd wrth arddel y gwerth a bywiogrwydd astudiaethau creadigol.

"Mae'r dyfarniad hwn yn adlewyrchiad o'r gwaith anhygoel a gynhyrchwyd gan y myfyrwyr a gwaith caled y staff."

Mae'r cyrsiau achrededig gan Skillset Creadigol yn rhan o bortffolio Academi Skillset Creadigol Cyfryngau Cymru, partneriaeth Addysg Uwch a diwydiant sy'n cefnogi cyrsiau yng Nghymru sydd wedi derbyn y Tic drwy gynnig buddion ychwanegol. Mae'r Academi yn cael ei harwain gan Brifysgol Cymru, Casnewydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Morgannwg, Prifysgol Metropolitan Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth.

Tic Creadigol Skillset

Mae Tic Creadigol Skillset yn cael ei ddyfarnu i gyrsiau a darpariaeth prentisiaeth sydd wedi eu hasesu'n drylwyr yn erbyn meini prawf llym y diwydiant. Mae’n farc o ansawdd ar gyfer darpariaeth cyflogwr a gymeradwywyd yn y Diwydiannau Creadigol.

www.creativeskillset.org/pickthetick

www.mediaacademywales.org

AU40712