Beth sy'n digwydd ar yr Ynys Las?

Ffilmio Operation Iceberg ar fwrdd Gambo

Ffilmio Operation Iceberg ar fwrdd Gambo

04 Rhagfyr 2012

Bydd y rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Alun Hubbard, yn siarad am ei waith ymchwil ar yr Ynys Las (Greenland) a ffilmio ar gyfer rhaglen David Attenborough Frozen Planet, ac yn fwy diweddar y gyfres ddwy ran Operation Iceberg, mewn darlith gyhoeddus ar ddydd Mercher 5 Rhagfyr.

Yn y ddarlith “Operation Iceberg: Beth sy'n digwydd ar yr Ynys Las” bydd Dr Hubbard hefyd yn trafod sefydlogrwydd Llen Iâ'r Ynys Las, sef yr ail ardal fwyaf o rew yn y byd, a beth allai ei olygu i lefel y môr.
Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal yn Sinema Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth ar yn dechrau am 6 yr hwyr.
Yn wreiddiol o’r Borth, mae Dr Hubbard newydd ddychwelyd ar ôl goruchwylio'r broses o rewi ei long ymchwil Gambo yn y môr ger rhewlif Store yng ngorllewin yr Ynys Las.

Gyda’r tymheredd mor isel â minws 40 gradd Celsius, mae Alun a'i dîm yn cymryd eu tro i dreulio tri mis ar y rhew, wrth iddynt geisio deall beth sy’n digwydd lle mae’r môr a'r rhewlifoedd yn cwrdd yn nyfnder y gaeaf.

"Rydym yn credu bod yr hyn sy'n digwydd yn y gaeaf yn hanfodol i sut mae’r iâ yn torri yn yr haf", esboniodd Alun. "Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai ychydig sydd yn digwydd yma unwaith fod y môr wedi rhewi. Ein nod yw darganfod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd."

Bydd Dr Hubbard yn dychwelyd i'r Ynys Las tua diwedd y gaeaf pan fydd y môr yn dadlaith a’r mynyddoedd iâ anferth yn ffurfio unwaith eto.

AU40312