Cadair Newydd mewn Iechyd Gwledig

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

07 Rhagfyr 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dod at ei gilydd i sefydlu cadair unigryw ac arloesol mewn iechyd gwledig.

Mae rôl Darllenydd/Athro Hywel Dda mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol, y swydd gyntaf o'i bath yng Nghymru, yn cydnabod y cyfle unigryw sydd gan y GIG a’r prifysgolion lleol yng Ngorllewin Cymru i weithio mewn partneriaeth gan ailddiffinio sut y gall polisïau a gwasanaethau wella iechyd a lles y rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig.

Er ei bod yn cwmpasu mwy na chwarter ehangdir y wlad, dim ond 13% o boblogaeth Cymru sy’n byw o fewn ardal Hywel Dda.  Mae’r boblogaeth yn heneiddio a disgwylir i nifer y bobl 75 oed neu’n hŷn gynyddu 75% erbyn 2031. Mae un o bob tri oedolyn yng Nghymru'n dioddef o gyflwr hirdymor megis asthma neu diabetes. Felly mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn adnabod beth sydd ei angen ar ein cymunedau mwy gwledig er mwyn cael bywyd hirach a mwy iach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â thoreth o brofiad a gwybodaeth am les gwledig a/neu economeg iechyd i’r ardal. Bydd yn gyfrifol am arwain ymchwil ac am ddatblygu polisïau sy’n cwmpasu amryw feysydd gwahanol megis mynediad i dechnoleg yn y cartref ac yn y gymuned, effaith ffordd o fyw a ffactorau economaidd, gwella systemau cludiant integredig a datblygu gwybodaeth cleifion am eu cyflwr ac am hunanofal.

Meddai Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Cydnabyddwn heriau unigryw ein hardal fawr wledig, ond yn hytrach nag ystyried bod hyn yn broblem, fe’i hystyriwn yn gyfle i ddatblygu ein ffordd o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgolion, mudiadau gwirfoddol ac awdurdodau lleol er mwyn bodloni anghenion iechyd penodol ein cymunedau gwledig.

“Mae’r swydd hon yn ymwneud â sicrhau bod ein gwasanaethau’n gweithio i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu a bydd yn ein galluogi i gyflwyno math newydd o ddarpariaeth gofal iechyd mewn ardal wledig go iawn, gyda phobl go iawn, bob dydd o’r wythnos."

Cyflogir yr ymgeisydd llwyddiannus ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ei leoli yn Athrofa y Gwyddorau Dynol, Prifysgol Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Meddai’r Athro Martin Jones, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae hwn yn gyfle unigryw i wneud cyfraniad eglur i bolisïau pwysig ac arfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a/neu i newid polisïau drwy gymhwyso ymchwil.  Mae’r prifysgolion yn awyddus i fod ar flaen y gad yng nghyswllt dulliau newydd cynaliadwy o feddwl am iechyd, lles ac adfywio gwledig ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn cryfhau cyfleoedd newydd am ymchwil a datblygu ynghanol prydferthwch Gorllewin Cymru."

Meddai Jane Davidson, Cyfarwyddwr Sefydliad Cynaliadwyedd Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
“Rydym yn falch iawn i gydweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i hyrwyddo gwybodaeth a dylanwadu ar ddatblygu polisïau yn y dyfodol ym maes iechyd a gwasanaethau iechyd cynaliadwy mewn cymunedau gwledig.  Mae’n cymunedau’n wynebu nifer o heriau pwysig ar hyn o bryd yn cynnwys newidiadau o ran demograffeg a newidiadau yn natur y ddarpariaeth gofal iechyd.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd.  Mae manylion llawn ar gael ar-lein yma. Dydd Mawrth 18 Rhagfyr 2012 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

AU42012