Mwy yn astudio Mathemateg a Ffiseg

Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg

Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg

14 Rhagfyr 2012

Mae’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn dathlu blwyddyn arbennig iawn o ran recriwtio. 

Nid yn unig mae’r Sefydliad wedi recriwtio mwy na’r arfer i astudio Mathemateg a Ffiseg, mae’r niferoedd sy’n astudio elfennau o’r pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg y gorau erioed.

Mae traddodiad hir o gynnig cyfleoedd Cymraeg a dwyieithog i fyfyrwyr yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, a than yn ddiweddar roedd hyn yn dibynnu’n helaeth ar ymroddiad nifer fach o ddarlithwyr oedd yn medru’r Gymraeg.

Yn 2007 ffurfiolwyd y ddarpariaeth drwy gynnig modiwlau cyfrwng Cymraeg, ac yn 2010 apwyntiodd y Brifysgol Dr Gwion Evans yn ddarlithydd cyfrwng Cymraeg Mathemateg.  Dilynwyd hyn gan fuddsoddiad mewn dwy swydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Penodwyd Dr Huw Morgan yn ddarlithydd Ffiseg cyfrwng Cymraeg yn 2011 a Dr Tudur Davies yn ddarlithydd Mathemateg cyfrwng Cymraeg yn 2012. 

Mae’r adran wedi manteisio ar y swyddi hyn i ymestyn y ddarpariaeth ymhellach.  Bellach, mae nifer o gyrsiau’r Sefydliad yn cynnig o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy fodiwlau cyfrwng Cymraeg, ac felly’n gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Eleni yw’r flwyddyn gyntaf i Brifysgol Aberystwyth groesawu deiliad yr ysgoloriaethau hyn.

Dywedodd yr Athro Andrew Evans, Cyfarwyddwr y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, “Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod dros 40 o fyfyrwyr yn dilyn elfen o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg eleni. Rydym yn rhoi pwyslais yma ar fagu sgiliau dwyieithog ac mae’n amlwg bod myfyrwyr yn dod i ddeall mantais sgiliau dwyieithog ar gyfer y byd gwaith. Mae amrediad o fyfyrwyr yn astudio’r modiwlau hyn, o ddeiliaid ysgoloriaethau’r Coleg a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf  i ddysgwyr – ac mae hynny’n galonogol iawn.”

AU43912