Enillwyr cystadleuaeth cerdyn Nadolig

Kevin Williams, enillydd cystadleuaeth y cerdyn Nadolig

Kevin Williams, enillydd cystadleuaeth y cerdyn Nadolig

21 Rhagfyr 2012

Cyhoeddwyd mai Kevin Williams, myfyriwr PhD yn yr adran Cyfrifiadureg, yw enillydd cytadleuaeth cerdyn Nadolig 2012 y Brifysgol, gyda’i lun o Aberystwyth drwy ganghennau gaeafol.

Yn ail agos, roedd Holly Brookes gyda’i phluen eira ac Elizabeth Salmon gyda darlun o’r Hen Goleg trwy siap croes.

Dywedodd Kevin, “Dwi’n falch iawn o fod wedi ennill y gystadleuaeth hon. Tynnais y llun rhyw wythnos cyn Nadolig 2010. Dwi’n cofio i ni gael rhyw bedair modfedd o eira dros nos. Roedd y Brifysgol ar gau oherwydd y tywydd felly dyma fentro fynny’r Graig Glais er mwyn creu angylion yn yr eira a thynnu rhywfaint o luniau. Roedd hyn yn ddigwyddiad reit anarferol mor agos at y môr a bu i ni hyd yn oed adeiladu dyn eira ar y traeth!”

Crëwyd tri cherdyn Nadolig gyda dyluniadau Kevin, Holly ac Elizabeth a gellir eu prynu o’r ddesg yn Hugh Owen ac o’r siop grefftau yng Nghanolfan y Celfyddydau (35c, 40c neu £2.40 am wyth). Mae llun Kevin hefyd ar gael fel e-gerdyn yma www.aber.ac.uk/christmas-card/  

Nododd Jess Leigh, Swyddog Addysg yn Undeb y Myfyrwyr ac un o aelodau’r panel o feirniaid, “Bu’n rhaid i ni gael dwy restr fer cyn penderfynu ar y buddugol a’r ddau ddaeth yn agos i’r brig. Diolch i bawb am gystadlu a llongyfarchiadau mawr i Kevin. Mae ei lun yn crynhoi’n berffaith y Nadolig gwyn yn Aberystwyth.”

Y wobr gyntaf oedd dau docyn i berfformiad The Dreaming Beauty yng Nghanolfan y Celfyddydau a hamper Nadoligaidd a roddwyd gan Fwydydd Castell Howell Cyf. trwy fwyty’r Brifysgol, TaMed Da. Ar gyfer y ddwy ddaeth i’r brig, rhoddwyd £10 i’w wario yng Nghanolfan y Celfyddydau i un a thocyn am ddim i fynychu Fit & Well yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol (cyfle i fynychu unrhyw ddosbarth yn y rhaglen dair wythnos) i’r llall.

AU43712