Astudiaeth fitamin yr haul
21 December 2012

Gallai fitamin D, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘fitamin yr haul’, fod yn hanfodol y gaeaf hwn er mwyn dygymod â chyflyrau meddygol megis clefyd yn siwgr math 2.
Mae tystiolaeth i awgrymu bod cysylltiad rhwng lefelau isel o fitamin D a chlefyd siwgr math 2, cyflwr sy’n effeithio ar fwy na 160,000 o bobl yng Nghymru.
Mae clefyd siwgr math 2 yn gyflwr hir dymor sy'n digwydd pan nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin i weithio'n iawn, neu pan fydd y corff yn colli’r gallu i ymateb i’r hyn mae inswlin yn ei wneud. Canlyniad hyn yw lefelau uwch na’r arferol o siwgr yn y gwaed.
Mae fitamin D yn rheoleiddio swyddogaethau dros 200 o enynnau ac mae'n hanfodol ar gyfer twf a datblygiad y corff. Mae'n cynnal cydbwysedd calsiwm yn y corff, yn rhoi hwb i’r system imiwnedd ac yn lleihau'r risg o bwysedd gwaed uchel.
Mae Ffion Curtis o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth yn cynnal astudiaeth ymysg pobl leol o lefelau fitamin D yn y gwaed a rheolaeth siwgr yn y gwaed.
Esbonia Ffion, "Yn ystod yr haf bydd y rhan fwyaf ohonom yn cael digon o fitamin D o'r haul, ond yn ystod y gaeaf mae'n ddoeth chwilio am ffynonellau amgen o fitamin D yn ogystal â threulio amser allan yn yr awyr agored gan fod ymarfer corff rheolaidd hefyd yn bwysig."
"Mae nifer y bobl sy'n dioddef clefyd siwgr math 2 yn cynyddu yn ddramatig ar draws y byd. Ar yr un pryd, mae ffyrdd o fyw pobl yn newid. Maent yn treulio llai o amser yn yr awyr agored ac yn gwneud llai o ymarfer corff, ac o ganlyniad yn gweld llai o olau'r haul sy'n hanfodol i bob un ohonom," meddai Ffion.
"Nod ein hastudiaeth yw sefydlu a oes perthynas rhwng fitamin D a rheolaeth siwgr yn y gwaed mewn pobl, boed clefyd y siwgr arnynt neu beidio. Os oes prawf o hyn efallai y bydd hi’n bosib cynghori pobl sy’n dioddef o glefyd siwgr math 2 sut y gallant reoli'r cyflwr heb ddibynnu cymaint ar feddyginiaeth.
"Gallai newidiadau bychain i ffordd o fyw pobl wella eu hansawdd bywyd, ac o bosib leihau’r niferoedd sy’n datblygu clefyd siwgr", ychwanegodd.
Daeth pwysigrwydd fitamin D i’r amlwg gyntaf yn sgil y defnydd o olew iau penfras er mwyn trin achosion cynnar o’r clefyd rickets - y llechau. Erbyn hyn cydnabyddir fod gan fitamin D swyddogaeth bwysig o ran cynnal iechyd da, ac mae lefelau isel wedi eu cysylltu â chyflyrau meddygol eraill megis sglerosis ymledol, canser, ac osteoporosis.
Awgrymwyd bod cymaint â 50% o boblogaeth y byd mewn perygl o ddiffyg fitamin D. Mae ffynonellau gwerthfawr o fitamin D yn cynnwys pysgod, llaeth, sudd oren, melynwy, grawnfwyd ac olew iau penfras.
Mae’r Nadolig yn amser i’w fwynhau, llawenhau.....a bod yn iach! Dyma gyngor ar sut i gadw’n iach y Nadolig hwn:
• Mwynhewch eich cinio Nadolig, ond ceisiwch gadw at eich diet arferol gymaint â phosibl dros gyfnod y Nadolig. Ar ôl eich cinio Nadolig, ewch am dro gan y bydd hyn yn gymorth i reoli glwcos yn y gwaed a defnyddio mwy o galorïau.
• Bydd cadw’n weithgar dros fisoedd oer y gaeaf yn eich cadw'n gynnes, yn cynyddu sensitifrwydd inswlin ac yn llesol i'r meddwl.
• Mae ymarfer corff yn cynorthwyo’r cyhyrau i gario glwcos o'r gwaed yn effeithiol, dyna pam ei bod mor werthfawr wrth reoli clefyd siwgr.
Mae’r effaith yn para rhwng 24 a 72 awr yn unig, felly mae'n bwysig cadw at raglen ymarfer corff rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyhyrau’n parhau i dynnu siwgr o'r gwaed.
• Gwnewch yn siŵr bod byrbrydau iach ar gael yn rhwydd fel nad ydych yn bwyta gormod o siocledi a mins peis! Gall ambell i fwyd sydd yn uchel mewn braster/siwgr gael ei gynnwys fel rhan o ddiet amrywiol iach os ydych yn dioddef clefyd siwgr neu beidio.
• Os ydych yn dioddef clefyd siwgr neu beidio, ceisiwch osgoi uchafbwyntiau glwcos yn y gwaed (siwgr). Oherwydd ei bod yn Nadolig, bydd ein diet yn newid a bydd hyn yn achosi i lawer o bobl brofi lefelau glwcos uwch na'r arfer yn y gwaed.
• Os oes gyda chi ormod o fisgedi neu siocledi, beth am eu rhoi i gartref gofal lleol neu at y ffair ysgol nesaf?
• Dewiswch gig neu bysgod wedi grilio, rhostio neu bobi, yn lle wedi’i ffrio.
• Trïwch osgoi mwy o fenyn neu ddresin ar ffrwythau a salad.
• Beth am gyflwyno hufen ar wahân gyda phwdin fel eich bod gallu cymryd llai.
• Ceisiwch osgoi colli prydau bwyd gan y byddwch yn llwgu adeg y pryd nesaf ac yn fwy tebygol o orfwyta.
• Mwynheuwch y Nadolig!
AU43612
Nôl i'r brig
Cysylltiadau
Ffion Curtis
Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
01970 622070
fic7@aber.ac.uk