Ar leoliad

Ffilmio golygfa o Mathias ym Mhlas Gogerddan

Ffilmio golygfa o Mathias ym Mhlas Gogerddan

02 Ionawr 2013

Mae’r ffilmio ar gyfer drama dditectif newydd gyffrous wedi dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Plas Gogerddan wedi cael ei drawsnewid i fod yn orsaf heddlu gyda’r cast a’r criw ar leoliad tan mis Mai, 2013.

Mae Mathias (Hinterland yn Saesneg) yn cael ei ffilmio yn y Gymraeg a'r Saesneg ar yr un pryd i'w darlledu ar S4C a BBC4.  Wedi’i disgrifio fel y noir Nordig newydd, bydd y gyfres hefyd yn cael ei ddangos gan y darlledwr DR o Ddenmarc, sef yr un darlledwr oedd yn gyfrifol am gyfres boblogaidd The Killing. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C yn hydref 2013.

Rhwng nawr a Mai 2013, bydd actorion, cynhyrchwyr, gweithwyr camera, sain, colur a gwisgoedd o gwmni cynhyrchu teledu Fiction Factory yn treulio llawer o'u hamser ym Mhlas Gogerddan, neu'r Orsaf Heddlu fel y bydd yn cael ei adnabod dros y misoedd nesaf.

Esboniodd Gethin Scourfield, cynhyrchydd gyda Fiction Factory, "Fe fydd y gyfres yma yn gyfle gwych i ddangos y lleoliadau a’r tirwedd anhygoel yng Ngheredigion.

"Mae Plas Gogerddan yn lleoliad pwysig gan fod llawer iawn o'r digwyddiadau yn digwydd yn yr ystafelloedd holi, digwyddiadau a chyfweld yn y Plas. Yn ogystal â ffilmio, mae gweithdai’r saer hefyd yn cael eu lleoli yno, sy’n ei wneud yn le prysur iawn."

Adeiladwyd y Plas tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif. Dyma oedd cartref y teulu Pryse a werthodd y plasty a'r rhan fwyaf o'r ystâd i’r Brifysgol ym 1949.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Staff a Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, "Rydym wrth ein bodd bod y Plas yn mynd i ymddangos yn y ddrama dditectif newydd a chyffrous hon - mae wir yn benthyg ei hun yn dda i bencadlys heddlu gyda'i goridorau niferus ac ystafelloedd mawr.

"Nid ar Aberystwyth ar ardal gyfagos yn unig y bydd y gyfres yn canolbwyntio. Bydd hefyd yn cynnwys golygfeydd gwych a chefn gwlad Ceredigion, cyfle gwych i ddangos beth sydd gennym yma i weddill y byd."

AU39312