Bootcamp cyfrifiaduron

Raspberry pi

Raspberry pi

24 Ionawr 2013

Mae Technocamps Aberystwyth yn rhedeg calendr arall o bootcamps deuddydd diddorol yn ystod 2013 i ysbrydoli pobl ifanc i ddefnyddio Rasberry Pi, Minecraft a LEGO Mindstorm.

Bydd y bootcamp cyntaf Rasberry Pi – ‘Networked Adventure’ 9 yn cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Chwefror (14-15 Chwefror) yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth a bydd yn cynnig y cyfle i bobl ifanc archwilio potensial y cyfrifiadur maint cerdyn credyd.

Bydd y sesiynau yn cael eu rhedeg gan un o dîm Technocamps ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Mark Neal, un o’r academyddion sy’n gysylltiedig, yn ymwybodol o'r diddordeb mawr yn y Rasberry Pi bach a hygyrch sydd yn awr yn cael ei gynhyrchu yn ffatri DG Sony ym Mhencoed, De Cymru.

Meddai,''Mae’r Raspberry Pi Foundation, sydd wedi’i leoli yng Nghaergrawnt, yn awyddus i yrru i lawr cost uned gweithgynhyrchu’r Pi cadarn, ac yn ffodus mae costau cynhyrchu Sony UK yn gystadleuol. Mae sylfaenwyr y Pi eisiau sicrhau bod cyfrifiadureg yn hygyrch fel y gall pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn rhaglennu ac electroneg. Y dull hwn yw’r union beth y mae Technocamps yn ei hybu.’

Mae'r bootcamps yn weithdai ymarferol amser gwyliau i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed sydd â diddordeb brwd mewn datblygu eu sgiliau mewn cyfrifiadureg y tu hwnt i'r sgrin a bysellfwrdd arferol.

Mae arweinydd academaidd Technocamps Aberystwyth, Dr Fred Labrosse, eisiau sicrhau bod pobl ifanc o bob cwr o'r sir yn cael budd o Technocamps. Dywedodd, 'Rydym wedi bod yn rhedeg gweithdai mewn ysgolion uwchradd ar draws Ceredigion ers dros flwyddyn. Yn 2013 rydym am ehangu’r rhaglen i gynnwys mwy o weithgareddau tu allan i’r ysgol.  Eleni bydd Bootcamps yn cael eu cynnal yn Aberteifi ac Aberystwyth gyda digwyddiadau eraill ar draws y sir.’

Fel rhan o'r ymgyrch hon, mae rhaglen 2013 o bootcamps hefyd yn cynnwys dylunio cychod, aps ar gyfer ffonau smart, LEGO Mindstorm a gwneud gwrthrychau 3D o’r gêm ar-lein Minecraft. Trwy ddatblygu gweithdai yn ymwneud â gweithgareddau a gemau poblogaidd, mae Technocamps yn gobeithio ennyn diddordeb defnyddwyr ifanc a'u hannog i gychwyn gwneud pethau!

Mae'r rhain yn cynnwys Cyfrinach Dylunio Llongau (11-12 Chwefror 2013, Theatr Mwldan, Aberteifi) ac mae bootcamps y Pasg yn cynnwys App Inventor Robotics – Ffonau smart yn cwrdd â Lego Mindstorm (8-9 Ebrill 2013, Theatr Mwldan, Aberteifi) a Printcraft – Minecraft yn cwrdd Argraffu 3D (11-12 Ebrill 2013, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth).

Mae llefydd yn brin ac ar gael ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu, a chofrestru yn hanfodol. Am fwy o fanylion ac i archebu eich lle ewch i www.technocamps.com neu cysylltwch â Lisa Fisher ar 01970 622454/ lisa.fisher@technocamps.com.

Ychwanegodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, 'Mae mentrau megis Technocamps yn canolbwyntio ar annog pobl ifanc i ddod yn gynhyrchwyr o dechnoleg ac nid defnyddwyr yn unig. Gyda gymaint o gynnyrch a gwasanaethau yn cael eu caffael yn awr o dramor, mae angen gwirioneddol a brys i’r DG ddatblygu sgiliau yr ifanc fel eu bod yn ddiweddarach ar eu llwybr dysgu o bosibl yn dewis astudio o fewn y gwyddorau, technoleg, peirianneg neu fathemateg, ac yn y pen draw gael gyrfa yn un o'r disgyblaethau hynny.

Dyma'r unig ffordd y bydd y DG yn gallu cystadlu ag economïau eraill yn y dyfodol. Yn ystod yr 80au, roedd gan y DG rai mentrau dysgu gwych mewn cyfrifiadureg mewn ysgolion a chartrefi a oedd yn cael eu gyrru gan gyrff fel y BBC. Rydym am ysbrydoli pobl ifanc i ddeall technoleg eto.  Mae Technocamps yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael hwyl wrth archwilio potensial technoleg.’

Technocamps
Mae Technocamps yn brosiect £6m a ariennir gan arian ESF Llywodraeth Cymru a chaiff ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg, sy'n darparu sesiynau dyddiol ac wythnosol i bobl ifanc 11-19 oed ar ystod o gyffrous o bynciau cyfrifiadureg megis rhaglennu, roboteg, cryptograffeg, animeiddio a llawer mwy.

Mae'r rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 £3.2bn yng Nghymru yn cynnwys y rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a Chystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Dwyrain Cymru. Mae'r rhaglenni yn cael eu darparu drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cael eu hanelu at greu cyfleoedd cyflogaeth a hybu twf economaidd.

AU2913