Croesawu Coleg Brenhinol Astudiaethau Amddiffyn i’r Brifysgol

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

28 Ionawr 2013

Ar ddydd Iau a dydd Gwener (24/25 Ionawr), bu grŵp o fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Astudiaethau Amddiffyn (RCDS) ar ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth.                                           

Roedd yr ymweliad yn rhan o daith wythnos ar hyd Cymru, a chafodd y myfyrwyr – pob un ohonynt yn arweinwyr milwrol Prydeinig a rhyngwladol uchel ei statws- gyflwyniad i ystod o arbenigedd ym meysydd astudiaethau strategol, polisi Ewropeaidd ac Addysg Uwch.

Yn ystod eu hymweliad â'r Brifysgol, cyfarfu’r myfyrwyr â staff yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i drafod gwaith yr Adran, ac yn benodol, arbenigedd yr Adran mewn Astudiaethau Strategol.

Ar brynhawn dydd Iau, cyfarfu’r myfyrwyr  â Llywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry i drafod rôl yr UE a Chymru, gan elwa o brofiad helaeth Syr Emyr fel diplomydd a llysgennad.

Daeth yr ymweliad i ben gyda sesiwn ar fore dydd Gwener gyda Thim Gweithredol y Brifysgol lle bu’r myfyrwyr yn trafod yr heriau sy'n wynebu'r sector Addysg Uwch yng Nghymru a’r DU.

Meddai’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Roedd hi’n bleser croesawu’r fath ymwelwyr pwysig i’n Prifysgol a rhoi iddynt gipolwg ar yr amrywiaeth eang o arbenigedd sydd ar gael yn Aber.

"Rydym yn arbennig o falch o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’i hanes nodedig fel arweinydd byd-eang mewn astudiaethau strategol. Roeddem wedi elwa llawer iawn o drafod y pwnc gyda grŵp mor berthnasol. Roedd ein Llywydd, Syr Emyr Jones Parry, wedi mwynhau ei gyfarfod gyda'r myfyrwyr ac roeddem i gyd yn falch iawn i fod yn ateb y fath gwestiynau treiddgar!"

Roedd y grŵp RCDS fu’n ymweld â'r Brifysgol yn cynnwys uwch arweinwyr milwrol o bob cwr o'r byd, gan gynnwys Iran, Norwy, Awstralia a'r DU.