Myfyrwyr Aber yn ail greu protest Pont Trefechan

Jacob Ellis, Bethan Walkling, Catrin Faulknall ac Alaw Gwyn Rossington

Jacob Ellis, Bethan Walkling, Catrin Faulknall ac Alaw Gwyn Rossington

04 Chwefror 2013

Roedd 17 myfyriwr o’r Brifysgol yn rhan o ddigwyddiad unigryw y Theatr Genedlaethol sy’n dathlu 50 mlynedd ers protest Pont Trefechan.

Gan ddechrau o Ganolfan y Celfyddydau ar gampws Penglais roedd perfformiad 'Y Bont' ddydd Sul, Chwefror 3 yn cyfuno theatr, technoleg ddigidol a’r cyfryngau cymdeithasol gyda channoedd yn gwylio perfformiadau byw a darnau o ffilm ar hyd strydoedd y dre. Roedd y perfformiad promenâd unigryw yn ymweld â’r prom, y swyddfa bost a chaffis y chwyldro cyn cyrraedd ei uchafbwynt hanesyddol ar y bont, gan ddod â'r gorffennol a'r presennol at ei gilydd.

Mae Jacob Ellis, Bethan Walkling, Catrin Faulknall ac Alaw Gwyn Rossington ymhlith 17 myfyriwr o’r Brifysgol sydd yn rhan o’r cast. Daw Jacob sy’n fyfyriwr Cymraeg a Gwleidyddiaeth o Fro Morgannwg. “Dyma ein cyfle, meddai “i dalu teyrnged i’r holl bobl sydd wedi brwydro dros yr iaith”.

Mae Bethan o Bontypridd, yn astudio Drama a Chymraeg yn Aber ac wedi mwynhau’r profiad o weithio gyda chyfoedion o bob rhan o Gymru. “Dw i’n ymfalchïo yn y profiad o gael gweithio yn y Gymraeg, meddai ac wedi mwynhau “cwrdd myfyrwyr o brifysgolion eraill a chydweithio gyda nhw.”

Mae Catrin sydd o’r Rhondda ac yn fyfyrwraig Drama hefyd wedi bod wrth ei bodd yn gweithio ar y perfformiad. “Roedd e’n brofiad anhygoel ,meddai, “cael y cyfle i ail-greu hanes fel hyn.”

Mae Alaw Gwyn o Lanfair Talhaiarn yn astudio Drama ac Addysg ac yn cyfri’r profiad fel “cyfle gwych i gael blas o  weithio gyda chwmni proffesiynol.

Darlith Saunders Lewis yn 1962 sbardunodd aelodau ifanc Plaid Cymru i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dan arweiniad dau gydysgrifennydd, E G "Teddy" Milward a John Davies, trefnodd y mudiad iaith brotest yng nghanol eira Aberystwyth ar Chwefror 2, 1963.

Y nod oedd cael cymaint o bobl â phosibl i dderbyn gwŷs llys a sylweddolodd John Davies y gallen nhw dorri is-ddeddf drwy godi posteri ar eiddo cyhoeddus. Aeth tua 30 o fyfyrwyr at Bont Trefechan i gynnal protest fyddai'n cau'r brif ffordd o gyfeiriad y de.

Dros yr hanner can mlynedd mae Aberystwyth wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y mudiad gyda phencadlys a phrif swyddfa'r mudiad wedi ei sefydlu yma.

Roedd y prosiect yn ganlyniad i bartneriaeth greadigol arbennig rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ag S4C, Green Bay Media, a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a gyda chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  Gallwch ail-fyw’r digwyddiad drwy: 

Storify: Trydar, Cyfweliadau, Fideos, Lluniau, Adolygiadau: popeth mewn un lle!


AU5013