Arweinyddiaeth amgylcheddol

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

06 Chwefror 2013

Dydd Gwener yr 8fed o Chwefror, bydd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn croesawu siaradwyr o wahanol asiantaethau yng Nghymru i drafod rôl arweinyddol Cymru o fewn gwleidyddiaeth amgylcheddol ryngwladol.

Cynhelir Cynhadledd Cymru fel Arweinydd Amgylcheddol yn Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gyda digwyddiad cyhoeddus yn cloi’r gynhadledd am 6.00 o’r gloch yr hwyr.

Nod y gynhadledd hon yw gwerthuso safle Cymru o fewn gwleidyddiaeth amgylcheddol ryngwladol, a gweld sut y gall, drwy ei harferion amgylcheddol, gryfhau ei rôl arweiniol yn yr ymateb byd-eang i broblemau amgylcheddol rhyngwladol.

Er mwyn trafod y materion hollbwysig yma, a chynnig dadansoddiad o weithgareddau amgylcheddol diweddar, bydd y panel am 6.00 o’r gloch yn cynnwys:

•        Peter Davies (Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Chadeirydd Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru)

•        Matthew Quinn (Cyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai,  Llywodraeth Cymru)

•        Yr Athro Mike Hambrey (Cyfarwyddwr Sefydliadau Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W), Prifysgol Aberystwyth)

•        Michael Butterfield (Cyfarwyddwr Cymoedd Gwyrdd Llangatwg)

Cadeirydd y digwyddiad fydd Yr Athro Lynda Warren, Cyfarwyddwr Anweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

Bydd y panelwyr, sy’n gweithio ym maes prosesau trafod rhyngwladol, polisi cartref, y byd academaidd a gweithredu cymunedol, yn cynnig gorolwg o sefyllfa Cymru o fewn prosesau trafod amgylcheddol rhyngwladol a’r gweithredu a’r ymchwil sy’n sail i’r cyfan.

Gan edrych y tu hwnt i ddelwedd Cymru fel arweinydd amgylcheddol, bydd y siaradwyr yn trafod y polisi amgylcheddol a’r gweithredu dydd i ddydd sydd ei angen i adeiladau cenedl gynaliadwy gadarn, ac yn dangos fod cyfranogaeth ehangach o fewn a rhwng y byd polisi, y byd ymchwil a chymunedau lleol yn angenrheidiol er mwyn hwyluso rôl arweinyddol Cymru.

Dilynwch y gynhadledd ar y wefan http://walesenvironmentalleader.wordpress.com/ ac ar twitter #WalesGreenLeader, Hannah Hughes (@hanshare) a Katharina Höne (@kathone).

Grŵp Ymchwil Gwleidyddiaeth Amgylcheddol
Sefydlwyd y Grŵp Ymchwil Gwleidyddiaeth Amgylcheddol o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2008. Mae’r grŵp yn darparu fforwm i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth rannu deunydd ymchwil a gwahodd siaradwyr gwadd ym maes gwleidyddiaeth amgylcheddol a phynciau perthnasol.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru, ac fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol bellach fel canolfan ymchwil bwysig iawn ar ranbartholdeb a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.

AU5313