Penodi Cyfarwyddwyr Athrofeydd

Chwith i’r Dde: Yr Athro Wayne Powell, yr Athro Andrew Henley, yr Athro Sarah Prescott, yr Athro April McMahon, yr Athro Neil Glasser, yr Athro Qiang Shen, yr Athro Kate Bullen a’r Athro Tim Woods.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Wayne Powell, yr Athro Andrew Henley, yr Athro Sarah Prescott, yr Athro April McMahon, yr Athro Neil Glasser, yr Athro Qiang Shen, yr Athro Kate Bullen a’r Athro Tim Woods.

08 Chwefror 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi pump o uwch benodiadau newydd i rolau Cyfarwyddwyr Athrofa.

Bydd yr Athro Qiang Shen, yr Athro Neil Glasser, yr Athro Andrew Henley, yr Athro Sarah Prescott a’r Athro Tim Woods yn ymuno â’r Athro Wayne Powell o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a'r Athro Kate Bullen o Athrofa y Gwyddorau Dynol fel Cyfarwyddwyr saith Athrofa’r Brifysgol.

Yn elfen fawr o gynllun strategol pum mlynedd y Brifysgol, bydd yr Athrofeydd rhyngddisgyblaethol newydd yn cryfhau cydlynu gweithgareddau ar draws adrannau, canolfannau ac unedau ymchwil y Brifysgol, datblygu cyfleoedd arweinyddiaeth lefel uchel; caniatáu datganoli cyllidebau a gwneud penderfyniadau; ac yn caniatáu set gyffredin o ddisgwyliadau mewn gwasanaethau a chefnogaeth ar draws y Brifysgol.

Wrth siarad am y penodiadau newydd, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud y fath benodiadau ardderchog. Mae'r Cyfarwyddwyr yn dod â rhinweddau mawr i'w rolau newydd, ac ystod eang o arbenigedd a phrofiad. Mae'r broses hon yn dangos y dalent sydd gennym o fewn Prifysgol Aberystwyth. Gallwn ymddiried yn y tîm newydd o arweinwyr i ddatblygu eu Hathrofeydd newydd wrth i ni symud ymlaen i’r cam pwysig o weithredu ein Cynllun Strategol newydd."

Yr Athro Qiang Shen
Bydd yr Athro Qiang Shen yn bennaeth ar yr Athrofa Gwyddor Mathemateg a Ffiseg a Chyfrifiadureg newydd. Ar hyn o bryd mae’r Athro Shen yn Bennaeth yr Adran Gyfrifiadureg yn Aberystwyth. Enillodd PhD mewn Gwybodaeth Seiliedig ar Systemau o Brifysgol Heriot-Watt. Ymunodd ag Aberystwyth o Brifysgol Caeredin (lle bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Addysgu gyda'r Ysgol Gwybodeg) yn 2004 yn ddeilydd Cadair mewn Cyfrifiadureg. Mae'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn aelod panel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 ar gyfer Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae’n un o'r awduron a ddyfynnir amlaf ym maes deallusrwydd cyfrifiadurol ac yn awdur 2 fonograff ymchwil a thros 300 o bapurau a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys un a dderbyniodd Gwobr Papur IEEE Trafodion Eithriadol, y wobr uchaf ei pharch am gyhoeddiad rhyngwladol yn y maes. Mae wedi bod yn oruchwyliwr cyntaf 40 PhD / PDRAs, gan gynnwys enillydd Gwobr Nodedig Traethawd Hir y Gymdeithas Gyfrifiadurol Brydeinig.

Yr Athro Neil Glasser
Bydd yr Athro Neil Glasser yn Gyfarwyddwr ar yr Athrofa newydd sy'n cynnwys Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru. Ymunodd yr Athro Glasser â Phrifysgol Aberystwyth ym 1999 fel Darlithydd ac fe'i dyrchafwyd yn Uwch Ddarlithydd yn 2002, yn Ddarllenydd yn 2004 ac yn Athro yn 2006. Yn 2006-2007 bu’n Ysgolhaig Rhagorol Fulbright yng Nghanolfan Data Cenedlaethol Eira a Rhew Boulder, Colorado. Bu ddwywaith yn aelod o Goleg Adolygiad Cymheiriaid Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) (2005-2008 a 2012-ymlaen) ac mae'n aelod o'r Pwyllgor Llywio ar gyfer Cyfleuster Dadansoddi Isotop Cosmogenic NERC (2007-2013). Mae hefyd yn gwasanaethu fel golygydd ar gyfer dau o'r cyfnodolion gorau yn ei faes, y Journal of Glaciology a Quaternary Science Reviews. Ar hyn o bryd mae’n  Athro Daearyddiaeth Ffisegol yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac yn Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth.

Yr Athro Andrew Henley
Bydd yr Athro Andrew Henley yn bennaeth ar Athrofa newydd y Gyfraith a Throseddeg, Reolaeth a Busnes ac Astudiaethau Gwybodaeth.  Mae’r Athro Henley yn Athro Entrepreneuriaeth a Datblygu Economaidd Rhanbarthol ac yn Gymrawd Ymchwil yn IZA  Institute for the Study of Labor, Bonn. Yn gyn Athro a Phennaeth yr Ysgol Fusnes ac Economeg ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n aelod o Banel Cynghori Gwyddonol y Gymdeithas Ddealltwriaeth, yr arolwg cartrefi hydredol y Deyrnas Gyfunol (DG).  Yn 2012, cafodd ei benodi i Bwyllgor Dulliau a Seilwaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DG. Mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Rhwng 2002 a 2012 bu'n gwasanaethu fel aelod penodedig o Banel Ymgynghorol ar Ymchwil Economaidd Llywodraeth Cymru, gan gynghori Prif Weinidog Cymru ar ymchwil economaidd. Mae hefyd yn aelod o Banel Cynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Yr Athro Sarah Prescott
Bydd yr Athro Sarah Prescott yn bennaeth ar Athrofa Theatr, Astudiaethau Ffilm a Theledu, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yr Ysgol Gelf, Cymraeg, Canolfan y Celfyddydau, Ieithoedd Ewropeaidd a’r Ganolfan Gerdd newydd. Mae’r Athro Prescott yn Athro Llenyddiaeth Saesneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ysgrifennu Menywod a Diwylliant Llenyddol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Graddiodd o Brifysgolion York ac Exeter, ac mae hi'n arbenigo mewn llenyddiaeth o’r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, ysgrifennu menywod, ac ysgrifennu Cymreig cyn 1800 yn Saesneg. Ar hyn o bryd mae’n Brif Ymchwilydd Prosiect ymchwil cydweithredol dros dair blynedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme (gyda Phrifysgolion Caeredin, Galway, a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) ar ‘Women’s Poetry 1400-1800 from Ireland, Scotland and Wales in Irish, English, Scots, Scots Gaelic, and Welsh’. Mae hi hefyd wedi derbyn grantiau ymchwil allanol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig yn ogystal â'r Ymddiriedolaeth Leverhulme. Bu’r Athro Prescott yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1995 ac yn dysgu Cymraeg ers 1997.

Yr Athro Tim Woods
Bydd yr Athro Tim Woods yn bennaeth ar yr Athrofa newydd ar gyfer yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, Canolfan y Graddedigion, Canolfan Saesneg Rhyngwladol, cymorth dysgu myfyrwyr a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Ar ôl cwblhau ei BA, MA a PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg ym mhrifysgolion Bryste a Southampton, penodwyd yr Athro Woods yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1990. Ers 2007, bu’n Ddeon Cyfadran y Celfyddydau. Fe’i penodwyd yn Aelod Panel ar gyfer Astudiaethau Ardal yr Ymarfer Asesiad Ymchwil (RAE) 2008 ac mae wedi ymgymryd â gwaith archwilio gyda'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Bu’n Gymrawd Ymweld Mellon ym Mhrifysgol Texas yn Austin, a derbyniodd wobrau ymchwil mawr gan Sefydliad Leverhulme, yr Academi Brydeinig, a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae hefyd yn aelod o Gyngor y Brifysgol.

Bydd yr Athrofeydd newydd yn weithredol o’r 1af o Awst 2013.

AU4713