Derbyniad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd

Myfyrwyr y Brifysgol yn mwynhau'r dathlu

Myfyrwyr y Brifysgol yn mwynhau'r dathlu

12 Chwefror 2013

Wythnos diwethaf, fe wnaeth 11 o fyfyrwyr Tsieineaidd o Brifysgol Aberystwyth eu ffordd lawr i fae Caerdydd i fynychu derbyniad y Flwyddyn Newydd Tseiniaidd yn y Senedd, yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd y digwyddiad, a chaeth  ei gynnal gan Brif Weinidog Cymru'r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, a hefyd y Llysgennad Tsieineaidd, Liu Xiaoming,  yn cynnwys noson o berfformiadau ac areithiau.

Yn deillio o’r flwyddyn gyntaf ar ail, mae saith ohonyn nhw yn astudio cwrs Uwchraddedig yn rheoli a systemau deallus, ac mae’r pedwar arall ar gyrsiau Israddedigion o fewn cyfrifeg a busnes.

Yn para dwy awr rhwng 6-8yp, roedd y digwyddiad yn rhoi cyflau unigryw i’r myfyrwyr i rwydweithio a chymdeithasu gydag Aelodau’r Cynulliad, dynion a menywod busnes, yn ogystal â myfyrwyr o Brifysgolion eraill ledled Cymru.

Y Swyddfa Ryngwladol wnaeth gydlynu'r ymweliad ar ran Prifysgol Aberystwyth ac roedd y myfyrwyr yn cynnwys Tianxiao ZHANG, Jinglei ZHANG, Lu CHENG, Yuanxu LIU, Jingyu ZHANG, Yiran SUN, Ke HUANG, Tianhua CHEN, Wenfeng TU, Lingjie CAI and Shangshuo ZHANG. 

Disgynnodd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd eleni ar y 10fed o Chwefror, sef Blwyddyn y Neidr.

Yn cael ei adnabod hefyd fel yr Ŵyl y Gwanwyn, mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn cael eu dathlu trwy fwyta bwydydd arbennig, cynnau tan wyllt, ymweld â ffrindiau a pherthnasau, darparu pecynnau coch fel dymuniadau da a hongian llusernau

AU5213